Teyrngedau i gynghorydd a 'phencampwr y celfyddydau'
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi ei rhoi i'r cynghorydd sir a chyn-gadeirydd Cyngor y Celfyddydau, Sybil Crouch, a fu farw dros y penwythnos.
Roedd yn gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar gampws Prifysgol Abertawe am bron i 30 o flynyddoedd.
Cafodd y cyn athrawes ei hethol i Gyngor Abertawe yn 2012 i gynrychioli Llafur yn un o wardiau canol y ddinas.
Dywedodd AS Gorllewin Abertawe, Geraint Davies y bydd yn cael ei chofio am ei "hiwmor, deallusrwydd a sosialaeth wedi'i gwreiddio mewn dyngarwch dwfn".
Roedd yna deyrnged hefyd gan AC Dwyrain Abertawe, Julie James a ddywedodd bod Ms Crouch yn "eiriolwraig angerddol ac effeithiol dros y celfyddydau ac artistiaid, ac yn bencampwr effeithiol a galluog eithriadol dros ei hetholwyr yn ward Castell ac ardal ehangach Abertawe".
Roedd Ms Crouch yn briod â David Phillips, cyn arweinydd Llafur Cyngor Abertawe a chyn faer y ddinas, sydd hefyd yn gynghorydd sir yn ward Castell.
Wrth fynegi tristwch ar eu tudalen Facebook, dywedodd Llafur Gorllewin Abertawe bod Ms Crouch "yn gefnogwr angerddol o'r celfyddydau a llawer o brojectau cymunedol yn Abertawe".
Ar wefan y blaid, mae Ms Crouch wedi disgrifio'i hawydd i fynd i'r afael â thlodi yn ei chymuned, ynghyd â diffyg mannau gwyrdd ar gyfer digwyddiadau hamdden a chymunedol.
Bu'n aelod o gabinet y cyngor sir gan arwain ar faterion cynaliadwyedd.
Dywedodd Prifysgol Abertawe bod Ms Crouch wedi gwneud cyfraniad aruthrol fel pennaeth gwasanaethau diwylliannol ac arweinydd Canolfan Gelfyddydau Taliesin.
Roedd yn gyfrifol am ei drawsnewid yn ganolfan llwyddiannus ac arloesol sy'n rhoi'r gymunedol yn gyntaf, yn ôl llyfrgellydd y brifysgol, Steve Williams.
Dywed datganiad y brifysgol bod ei hawydd i sicrhau cyfleoedd i unrhyw un gymryd rhan yn y celfyddydau "yn ysbrydoliaeth i artistiaid, perfformwyr a phawb oedd yn ddigon ffodus i gydweithio â hi.
"Roedd yn fentor aruthrol i gymaint o artistiaid ar draws Cymru a hi wnaeth gyrru nifer di-rif o brojectau artistig a diwylliannol."
Roedd y projectau hynny'n cynnwys digwyddiadau i gydfynd â'r Olympiad Diwylliannol ac i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a "Sybil, yn aml, oedd y person y tu ôl i'r pendawdau".
Ychwanegodd y datganiad bod Ms Crouch â rhan allweddol o ran sicrhau cartref parhaol Canolfan Eifftaidd y brifysgol
"Fe wnaeth hi ymddeol fis Mawrth y llynedd, gan ddal gafael ar ei hangerdd dros [Ganolfan] Taliesin a'i rôl ym mywyd diwylliannol y ddinas.
"Rydym yn ddiolchgar i Sybil am lawer o bethau, ond yn bennaf am gredu'n danbaid yng ngrym y celfyddydau a diwylliant i wella a thrawsnewid bywydau.
'Egnïol, bywiog a llawn ysbryd'
Roedd yn gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1999 a 2003.
Dywedodd cadeirydd presennol y cyngor, Phil George: "Yn drist iawn rydym yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda'r newydd bod Sybil wedi marw yn dilyn brwydr hir gydag afiechyd.
"Roedd yn wraig ryfeddol - yn egnïol, bywiog a llawn ysbryd. Cyflawnodd waith gwych fel Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe a chafodd yrfa ddiwylliannol a gwleidyddol nodedig, yn cynnwys bod yn Gadeirydd Cyngor y Celfyddydau.
"Byddwn yn ei cholli'n fawr."
Dywedodd y darlledwr a'r ymgynghorydd celfyddydau, Andrew Miller ar Twitter: "Fe wnaethon ni gydweithio'n agos pan roeddwn i yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a thra'i bod yn gymeriad aruthrol, roedd hi wastad yn rhoi artistiaid yn gyntaf, ac roedd yn dadlau'n danbaid dros y celfyddydau a Chymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011