Creu ewyllys i hawlio arian rhithwir wedi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Gaerdydd wedi creu'r hyn mae'n ei ddisgrifio'n un o'r ewyllysiau cyntaf drwy'r byd i helpu teuluoedd gael mynediad at fuddsoddiadau arian rhithwir anwyliaid sydd wedi marw.
Mae ymchwil wedi awgrymu bod bron i 3.8m Bitcoin - tua $30bn (£22.8bn) yn ôl ei werth presennol - wedi eu colli ar ôl i'r perchnogion farw heb ddweud wrth unrhyw un sut i gael gafael ar yr arian.
Er cyngor rhai arbenigwyr bod buddsoddi mewn arian rhithwir yn fentrus ac yn anwadal, mae'r farchnad yn parhau i dyfu.
Wrth lunio'r ewyllys arbenigol, dywed prif weithredwr cwmni Coin Cover nad yw'n synnu bod camau heb eu cymryd yn y gorffennol i warchod asedau, gan fod y mater un un mor "breifat" i lawer o bobl.
"Os wnaethoch chi gaffael arno yn gynnar, fe allwch chi fod â swm ariannol sylweddol," meddai David Janczewski.
"Fe allwch chi fod yn poeni am eich diogelwch personol.
"A does neb yn meddwl bod nhw'n mynd i farw. Does neb yn cynllunio ar gyfer hynny. Felly pan mae'n digwydd, falle nad ydych chi wedi dweud wrth aelodau'ch teulu sut yn union mae cael at yr arian."
Dan gynllun y cwmni mae pobl yn cael cerdyn "amhosib ei ddinistrio" gyda gwybodaeth am eu harian rhithwir, ac mae modd cael cardiau pellach i'w rhoi i'r sawl fyddai'n derbyn arian ar eu holau.
Petai'r unigolyn yn marw, byddai modd i anwyliaid ac ysgutorion gysylltu â'r cwmni gan ddyfynnu rhif unigryw sydd ar y cerdyn a dangos tystysgrif marwolaeth.
Mae Coin Cover wedyn yn ymchwilio i'r achos a cheisio sicrhau'r arian ar eu rhan.
'Rhaid gwneud pethau mor hawdd â phosib'
Un sy'n gweithio yn y diwydiant arian rhithwir yw Jack Davies, sy'n 23 oed ac o Benarth.
"Tydw i ddim yn meddwl ynghylch marwolaeth a finna yr oedran ydw i, ond rwy'n meddwl bod hi'n hanfodol i wneud pethau mor hawdd â phosib i bawb," meddai.
Yn ôl arolwg YouGov yn Nhachwedd 2018, roedd 9% o'r bobl 18 i 24 oed a gafodd eu holi wedi prynu arian rhithwir, o'i gymharu â 7% o'r atebwyr dros 55 oed.
Mae Jack yn ystyried gwneud ewyllys i sicrhau bod ei asedau'n cael eu rhannu yn ôl ei ddymuniad petai o'n marw.
"Pe taswn i â digon i warantu'r peth, fyswn i'n bendant yn gwneud un," meddai.
Ychwanegodd bod cyplysu arferion dulliau ariannol traddodiadol i arian rhithwir yn "gam cyntaf da iawn".
Mae arbenigwr cyfreithiol sy'n delio ag ewyllysiau ac ystadau wedi dweud bod nifer cynyddol o gleientiaid - o gwmpas 20% ar hyn o bryd - wedi gwneud buddsoddiadau Bitcoin a bod rhai teuluoedd wedi methu cael at arian eu hanwyliaid oherwydd diffyg gwybodaeth.
Dywed David King o gwmni Harrison Clark Rickerbys bod "angen i ni, fel cyfreithwyr cleientiaid preifat, gamu i'r 21ain Ganrif a dechrau cofnodi'r data hynny".
Ychwanegodd bod cleientiaid yn gyndyn o roi codau mynediad yn aml, ond bod yna ddyletswydd ar gyfreithwyr i gadw'r wybodaeth yn gyfrinachol.
Awgrymodd astudiaeth gan Brifysgol Caergrawnt yn 2017 bod rhwng 2.9m a 5.8m o bobl yn defnyddio arian rhithwir, ond mae llawer yn dadlau bod y nifer yn uwch erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2013