Cymru i herio'r Unol Daleithiau mewn gêm gyfeillgar

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru sicrhau eu lle yn Euro 2020 gyda buddugoliaeth dros Hwngari

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn croesawu'r Unol Daleithiau i Gaerdydd am gêm gyfeillgar ym mis Mawrth fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Euro 2020.

Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Lun, 30 Mawrth.

Daeth cadarnhad hefyd y bydd y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria ar 27 Mawrth - gafodd ei chyhoeddi fis diwethaf - yn cael ei chynnal yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru gynnal gêm yn y stadiwm ers 2013, pan gollon nhw i Croatia.

Mae disgwyl i dîm Ryan Giggs gyhoeddi dwy gêm gyfeillgar arall fydd yn cael eu chwarae yn yr wythnosau cyn Euro 2020.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn Euro 2020 yn erbyn y Swistir yn Baku ar 13 Mehefin cyn herio Twrci yn yr un ddinas ac yna'r Eidal yn Rhufain.