Pryder bod gwestai Baku yn twyllo cefnogwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Matthew Jones ei fod am bwyllo cyn archebu gwesty arall yn Baku

Mae Llysgenhadaeth y DU yn Azerbaijan yn ymchwilio i honiadau bod cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cael eu twyllo gan westai yn Baku.

Yn ôl Cymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed (FSA) Cymru mae dros 100 o gefnogwyr wedi cysylltu â nhw i leisio pryderon ynglŷn ag ystafelloedd oedd wedi eu harchebu ar gyfer yr haf.

Bydd Cymru yn herio'r Swistir a Thwrci yn Euro 2020 yn Baku ar 13 a 17 Mehefin.

Dywedodd cadeirydd FSA Cymru, Paul Corkrey: "Mae pobl yn archebu gwestai, ond maen nhw'n cael eu canslo ac yna mae'r perchnogion yn gofyn am lawer mwy o arian.

"Maen nhw'n dweud bod rhaid canslo'r gwesty am wahanol resymau ac os ydych chi eisiau ail-archebu y bydd hynny'n costio £500 yn fwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru drechu Azerbaijan yn Baku ym mis Tachwedd

Ychwanegodd Mr Corkrey bod rhai honiadau mwy difrifol, gyda nifer wedi cysylltu gydag ef i ddweud bod arian wedi'u cymryd o'u cyfrifon heb ganiatâd neu gan westai nad oedden nhw wedi eu harchebu.

"Rydyn ni wedi clywed am bobl yn archebu gwesty gyda free cancellation - maen nhw wedi gorfod rhoi manylion eu cerdyn ond gyda'r addewid na fydd unrhyw arian yn cael ei gymryd tan yn nes at yr amser," meddai.

"Ond mae arian wedi cael ei gymryd o'u cyfrifon yn dwyllodrus gan o leiaf 10 o bobl ry'n ni'n gwybod amdanyn nhw.

"Ond mae'r banciau wedi bod yn dda ac wedi ad-dalu'r arian yma.

"Yr hyn dydyn ni ddim eisiau ydy bod cefnogwyr yn cyrraedd Baku ac yn darganfod nad oes ganddyn nhw unrhyw le i aros."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Corkrey fod arian wedi cael ei gymryd allan o gyfrifon rhai cefnogwyr heb ganiatâd

Un cefnogwr gafodd ei dwyllo o dros £800 ydy Matthew Jones o Gaergybi.

Dywedodd ei fod wedi archebu lle i'w hun a chwech o'i ffrindiau yn y Dream Hotel yn Baku trwy wefan Hotels.com.

Ond y diwrnod canlynol fe wnaeth gwesty arall - Twin Castle Boutique Hotel - gymryd £854 o'i gyfrif banc.

Dywedodd ei fod wedi cysylltu gyda'r ddau westy ond heb unrhyw ymateb, a bod Hotels.com ddim wedi gallu helpu chwaith.

'Clonio fy ngherdyn banc'

"Nes i fwcio gwesty yn Baku ar 6 Rhagfyr trwy Hotels.com - Dream Hotel and Apartements," meddai.

"Wedyn ar 7 Rhagfyr o'n i'n edrych ar online banking ac yn gallu gweld bod gwesty o'r enw Twin Castle Boutique Hotel wedi cymryd mwy na £800 allan.

"Nes i drio ffonio'r gwesty a gyrru email, ond 'naethon nhw ddim dod 'nôl atai.

"Nes i ffonio HSBC ac egluro be' oedd wedi digwydd ac roedden nhw'n gallu gweld yn syth bod rhywun wedi clonio fy ngherdyn banc."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n chwarae dwy gêm yn Baku - yn erbyn y Swistir a Thwrci

Er y twyll, mae Mr Jones wedi llwyddo i gael ei arian yn ôl gyda help ei fanc.

"Roedd HSBC yn ffantastig - fe wnaethon nhw dalu'r pres yn ôl i fy nghyfrif felly o'n i'n lwcus iawn," meddai.

Mae Llysgenhadaeth y DU yn Azerbaijan wedi dweud y byddan nhw'n cwrdd â bwrdd twristiaeth Baku yr wythnos hon i drafod y mater.

Ychwanegodd Mr Corkrey bod FSA Cymru yn cwrdd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Mercher ac y bydd pryderon cefnogwyr am y gwestai ar yr agenda.