Cynnig lle i ferch ysgol, 14, mewn academi Formula 1

  • Cyhoeddwyd
Libby Chapman
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfle gyda Williams F1 yn golygu y bydd Libby Chapman yn cymryd rhan mewn cynllun e-ddysgu

Mae merch ysgol o Sir Ddinbych gam yn nes at ei breuddwyd o weithio yn y byd rasio ceir ar ôl cystadlu mewn digwyddiad wedi'i ysbrydoli gan Formula 1 yn Abu Dhabi.

Roedd Libby Chapman, 14, yn rhan o griw ysgol fu'n cystadlu yn erbyn timau o amgylch y byd i ddylunio car model perfformiad uchel.

Ar ôl rowndiau terfynol y byd F1 mewn ysgolion, roedd hi'n un o 10 yn unig, ledled y byd, a gafodd gynnig lle mewn academi arbenigol.

"Pan ddywedon nhw fy enw, doeddwn i ddim yn ei gredu," meddai.

Cymerodd mwy na 300 o bobl ifanc ran mewn yn y digwyddiad i ddylunio ac adeiladu car enghreifftiol.

Roedd Libby, o Ysgol Uwchradd Dinbych, yn un o 30 y gofynnodd tîm F1 Williams iddyn nhw gymryd rhan mewn proses asesu.

O ganlyniad, cafodd lle ei gynnig i'r disgybl Blwyddyn 10 ymuno ag Academi Beirianneg Unilever Williams i nodi peirianwyr ifanc talentog ac sy'n cynnwys hyfforddiant ychwanegol a mentora.

Disgrifiad o’r llun,

Y car gafodd ei ddylunio gan dîm Libby

"Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i wedi'i gael gan mai fi yw'r ieuengaf yno," meddai Libby a oedd yn beiriannydd dylunio ar ran ei thîm ysgol.

"Ac yna pan ddywedon nhw fy enw... eisteddais i lawr am eiliad... roeddwn i'n hapus iawn."

Mae'r cyfle gyda Williams F1 yn golygu y bydd hi'n cymryd rhan mewn cynllun e-ddysgu.

A bydd hefyd yn cael cyfle i fynychu digwyddiadau ysgol haf gyda'r tîm yn Rhydychen.

'Cymaint o lwybrau'

"A minnau'n 14 oed, doeddwn i erioed 100% yn siŵr ar yr o'n i am ei wneud," meddai.

"Ac yna pan nes i ddechrau'r gystadleuaeth hon, nes i sylweddoli fod cymaint o lwybrau mewn peirianneg."

Dyma'r trydydd tro i dîm o Ysgol Uwchradd Dinbych gyrraedd rowndiau terfynol y byd F1 mewn ysgolion.

Roedd yn rhaid i'r tîm - Libby, Zara Addis, Tom Fishwick a Hollie Lloyd - lunio portffolio o syniadau dylunio.

Dywedodd athro dylunio'r ysgol, Gareth Jones fod llwyddiant yr ysgol wedi dangos i ddisgyblion eraill y gallan nhw gystadlu â'r goreuon yn y byd.