Ehangu ysgol gynradd Gymraeg Bro Alun yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yn Wrecsam wedi cymeradwyo cais cynllunio i ehangu ysgol gynradd Gymraeg yn y dref.
Bydd gan Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt le i 315 o ddisgyblion pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau - cynnydd o dros 100.
O dan y cynlluniau, bydd dwy ystafell ddosbarth newydd yn cael eu codi mewn estyniad sy'n 475 metr sgwâr o ran maint.
Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r cynllun gwerth £1.3m.
'Newyddion da'
Yn ôl Cyngor Wrecsam, roedd y diffyg gwrthwynebiad i'r cynlluniau'n arwydd fod yr ysgol, a agorodd yn 2013, wedi cael "croeso" gan gymuned Gwersyllt.
Cyn mis Medi 2019, roedd lle i 210 disgybl yn yr ysgol a 30 yn yr adran feithrin, ond pan fydd yr estyniad wedi'i gwblhau bydd lle i 315 yn yr ysgol a 45 yn yr adran feithrin.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn y llynedd fod yr estyniad yn "newyddion da... o ran hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg".
Ond mae'r cyngor, er hynny, wedi cael eu beirniadu yn y blynyddoedd diwethaf am eu darpariaeth addysg Gymraeg.
Ym mis Mai 2017, daeth hi i'r amlwg fod nifer o blant wedi methu cael lle yn nosbarth meithrin Ysgol Bro Alun - gan olygu, mewn ambell i achos, bod plant o'r un teulu yn gorfod mynd i ysgolion cynradd gwahanol.
Ym mis Ebrill 2019, beirniadodd Plaid Cymru benderfyniad cabinet y cyngor i ohirio sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn y dref am ddwy flynedd.
Roedd yr ysgol i fod i agor ar safle dros dro ym Mharc Caia ym mis Medi 2019 cyn symud i safle parhaol yn ardal Borras yn 2021.
Ond gan mai nifer fechan o geisiadau dderbyniodd y cyngor gan rieni, fydd yr ysgol ddim yn agor tan 2021.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd25 Mai 2017