Cefnogi cynnig i agor ysgol Gymraeg newydd yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr Cyngor Wrecsam wedi cefnogi cynigion i ehangu addysg Gymraeg yn y sir.
Pleidleisiodd y bwrdd gweithredol fore Mawrth o blaid cyhoeddi rhybudd statudol i agor ysgol gynradd Gymraeg newydd i 210 o ddisgyblion yn ardal Borras.
Bydd y cyngor hefyd yn ymgynghori ar ymestyn Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt o 210 o ddisgyblion i 315.
Byddai datblygiad Borras yn golygu 30 o lefydd newydd ym mhob blwyddyn, gydag ymestyn Ysgol Bro Alun yn arwain at greu lle i 15 disgybl ychwanegol.
'Rheswm i ddathlu'
Byddai hynny'n gyfanswm o 45 o lefydd newydd yn narpariaeth addysg Gymraeg y sir bob blwyddyn yn y dyfodol.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Mark Pritchard, bod y cynigion yn "reswm i ddathlu", a'i fod yn "gyhoeddiad ffantastig".
Roedd y cyngor wedi derbyn nifer o wrthwynebiadau i'r cynllun ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus, gan gynnwys rhai yn cwestiynu'r angen am ehangu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg.
Ond roedd y nifer fwyaf o gwynion yn ymwneud â materion traffig a pharcio.
Yn ddiweddar mae rhai wedi cwestiynu a oes angen rhagor o le narpariaeth addysg Gymraeg y sir, gan awgrymu bod y cyngor wedi goramcangyfrif y galw yn y gorffennol.
'Galw ers blynyddoedd'
Ond dywedodd y cynghorydd Gwenfair Jones o ward Gorllewin Gwersyll: "Dwi ddim yn cytuno efo hynny o gwbl.
"Dwi'n meddwl mewn dwy flynedd eto y bydd rhaid i ni feddwl am addysg Gymraeg eto. Fel mae mwy o blant yn mynd drwy addysg Gymraeg, bydd angen rhagor o ysgolion Cymraeg.
"Mae 'na alw mae wedi bod ers blynyddoedd.
"Mae lot o rieni wedi bod yn peidio rhoi enwau i lawr i ysgolion Cymraeg yn gwybod base genyn nhw ddim siawns o fynd mewn achos yr ardal maen nhw'n byw.
"Maen nhw'n byw yn rhy bell o'r ysgolion. Ond bydd hyn yn hwb mawr i addysg Gymraeg yn Wrecsam."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd25 Mai 2017
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016