Gwahardd chwaraewr rygbi wedi achos honedig o hiliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae clwb rygbi o'r de wedi gwahardd un o'u chwaraewyr yn dilyn honiad o hiliaeth a ysgogodd chwaraewyr y tîm arall i gerdded oddi ar y cae.
Daeth y gêm rhwng Llanrhymni a Threfil i ben yn gynnar yn dilyn y digwyddiad honedig yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae Llanrhymni yn honni bod eu canolwr Wayne Dacruz wedi cael ei gam-drin yn hiliol.
Cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru (URC) fod chwaraewr Trefil - clwb o ardal Gwent - wedi'i anfon oddi ar y cae gan y dyfarnwr am gam-drin hiliol honedig.
Ymatebodd Dacruz ac, oherwydd iddo yntau gael cerdyn melyn yn gynharach yn y gêm am drosedd dechnegol, cafodd ei anfon o'r maes hefyd.
Cafwyd tri cherdyn coch yn ystod yr ornest Cynghrair 3 Canol Dwyrain C ar dir chwarae Neuadd Llanrhymni yn y brifddinas.
'Heb weld unrhyw beth tebyg'
Mewn datganiad ar gyfrif Twitter y clwb, dywedodd Llanrhymni: "Erioed wedi clywed unrhyw beth tebyg iddo ar gae rygbi o'r blaen!
"Nid oedd gan y bechgyn unrhyw opsiwn heblaw cerdded i ffwrdd, gobeithio y bydd URC yn delio ag ef yn iawn.
"A bod yn deg â gweddill bechgyn Clwb Rygbi Trefil, ymddiheurodd y mwyafrif ohonyn nhw am y digwyddiad ac fe ddaeth un o'r hyfforddwyr i'n hystafell newid ar ôl ac ymddiheuro hefyd.
"Methu paentio'r clwb cyfan gyda'r un brwsh!"
Dywed URC y bydd yn aros am ganlyniadau gwrandawiad cyn penderfynu ar gamau pellach.
"Mae gan [Trefil] saith diwrnod i ymateb i'r cyhuddiad cyn i banel disgyblu gael ei drefnu i wrando ar yr achos. Nid oes lle i gam-drin o unrhyw fath yn y gêm," meddai llefarydd.
Mewn datganiad, dywedodd clwb Trefil eu bod wedi "gwahardd y chwaraewr yn swyddogol o holl weithgareddau'r clwb hyd nes y cynhelir ymchwiliad mewnol llawn a'r ymchwiliad dilynol gan URC".
"Byddwn yn cydweithredu'n llawn ag URC. Nid ydym ni fel clwb yn cydoddef unrhyw gamdriniaeth ddirmygus mewn unrhyw ffordd a byddwn yn gweithredu yn unol â hynny i gadw enw da ein camp.
"Yn dilyn y gêm ddydd Sadwrn, fe siaradodd ein swyddogion â swyddogion Llanrhymni a chyfleu hyn iddyn nhw.
"Nid ydym yn bwriadu mynd i ddadl cyfryngau cymdeithasol, ond yn hytrach byddwn yn gweithredu yn unol â chyngor URC."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2018