Merched Cymru ar y Cae Ras am y tro cyntaf ers 2012

  • Cyhoeddwyd
Tash HardingFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn chwarae yn Wrecsam am y tro cyntaf ers 2012 ym mis Mawrth.

Bydd carfan Jane Ludlow yn herio Estonia mewn gêm gyfeillgar ar y Cae Ras ddydd Gwener, 6 Mawrth.

Hon fydd y bedwaredd gwaith i'r ddwy wlad gwrdd, gyda Chymru wedi ennill dwy a chael un gêm gyfartal hyd yn hyn.

Daw'r gêm yng nghanol ymgyrch y tîm i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2021 - maen nhw'n ail yn y grŵp y tu ôl i Norwy ar hyn o bryd.

Fe wnaeth tîm y dynion chwarae eu gêm gyntaf yn Wrecsam ers 2008 y llynedd, pan drechon nhw Trinidad a Tobago o 1-0.