Pwysau ar ysbytai Cymru yn 'eithriadol' ac yn 'anodd iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pwysau ar ysbytai yng Nghymru yn "eithriadol" ac yn "anodd iawn, iawn", yn ôl y gweinidog iechyd.
Bu Vaughan Gething yn ymweld â thri ysbyty yng ngorllewin Cymru i weld graddfa'r problemau.
Does dim modd gwadu, meddai, ei bod hi'n "sylweddol wahanol" i aeafau blaenorol, gyda nifer uchel o gleifion sâl yn dod i mewn, er gwaethaf tywydd cynhesach a'r ffliw ddim yn broblem enfawr.
Dywedodd un doctor fod 125 o gleifion meddygol iach yn ei ysbyty methu â gadael tan fod gofal cymdeithasol ar gael.
Mae nifer y galwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans 15% yn uwch na'r adeg yma llynedd.
Ar ymweliad ag Ysbyty Nedd Port Talbot, dywedodd Mr Gething fod cynorthwyo pobl yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal yn ychwanegu i'r broblem.
Dywedodd fod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gwneud y penderfyniad cywir i ohirio llawdriniaethau'n gynharach yn yr wythnos, er mwyn blaenoriaethu cleifion.
"Nid methiant cynllunio yw hynny ond y galw rhyfeddol a welsom ar draws eu system," meddai.
Dywedodd Hywel Dda fod y darlun yn "parhau i fod yn anodd" ond bod gwelliannau wedi bod, gydag ysbytai Bronglais a Thywysog Philip yn cyrraedd "statws dad-ddwysáu" ddydd Iau.
Ychwanegodd llefarydd fod "pwysau eithriadol" ar y gwasanaethau o hyd, gan gyfeirio pobl at dudalen ar wefan GIG Cymru, dolen allanol.
Yn Ysbyty Treforys ym mwrdd iechyd cyfagos Bae Abertawe, dywedodd ymgynghorydd yr adran achosion brys, Mark Poulden fod saith neu wyth ambiwlans yn aros i ddadlwytho cleifion.
"Mae pob blwyddyn yn gwaethygu rhywfaint," meddai. "Mae'n bwysau parhaus ac mae effaith i'r pwysau cyson hwnnw - mae 125 o gleifion sy'n ffit yn feddygol yn aros am ofal mewn lleoedd eraill, mae'n fater o'u symud ymlaen ac yn amlwg mae hynny'n cael effaith.
"Rydyn ni'n gweld hyn ledled y DU ond yn siarad â chydweithwyr mae'n ymddangos ei fod ychydig yn waeth yng Nghymru. Mae'n rhaid iddo ymwneud â chydweithio rhwng iechyd ac achos cymdeithasol."
Norofirws? Cadwch yn glir
Gohiriodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr lawdriniaethau arferol yn Ysbyty Glan Clwyd yn gynharach yr wythnos hon a chafodd nifer fach o lawdriniaethau arferol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd eu gohirio hefyd.
Mae ysbyty Abergele hefyd wedi ailddechrau llawdriniaethau oedd wedi'u cynllunio ymlaen llaw ar ôl i staff gael eu hadleoli i helpu.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi gofyn i gleifion beidio â dod i ysbytai os ydyn nhw wedi dioddef symptomau norofirws.
"Hyd yn oed os yw'ch symptomau wedi stopio efallai y byddwch chi'n dal i allu lledaenu'r firws am y 48 awr ganlynol, felly ceisiwch osgoi dod i'n hysbytai," meddai Amanda Miskell, cyfarwyddwr cynorthwyol nyrsio ar gyfer atal heintiau."
Dywedodd Paul Summers, pennaeth iechyd Unison Cymru: "Mae gweithwyr gofal iechyd yn gweithio mor galed ag sy'n bosib, yn aml yn mynd ymhell y tu hwnt, i gadw gwasanaethau i redeg mewn amgylchiadau anodd.
"Maen nhw'n poeni'n fawr am y pwysau ar y GIG - nid ffenomen gaeaf yn unig mo hon bellach.
"Mae gennym system gofal brys a gofal cymdeithasol na all gefnogi poblogaeth sy'n byw yn hirach ac sydd ag anghenion iechyd cymhleth."
Dywedodd na allai GIG Cymru a chynghorau aros tan fis Mawrth i weld beth allai Cyllideb San Steffan gynnig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020