Beirniadaeth o Drakeford am ymateb 'hunanfodlon' i'r etholiad

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae'r prif weinidog yn "hunanfodlon" ac yn gwrthod derbyn canlyniad Llafur yn yr etholiad, yn ôl rhai o aelodau'r blaid yn y Cynulliad.

Mae sawl AC Llafur wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn anfodlon gyda dadansoddiad Mark Drakeford o'r canlyniadau etholiad mewn cyfarfod grŵp.

Fe welodd y blaid y perfformiad gwaethaf ers 1935 ond mae'n parhau fel y blaid fwyaf yng Nghymru, er iddyn nhw golli chwe sedd.

Mae grŵp y blaid yn y Cynulliad wedi cael cais am sylw.

'Amddiffynnol iawn'

Wedi'r etholiad dywedodd Mr Drakeford y dylai Llafur gadw at y "neges sylfaenol" bod Llafur yn "sefyll dros rywbeth gwell".

Yr wythnos hon dywedodd bod y blaid angen "arweinydd fydd yn ystyried maniffestos 2015 a 2019 fel sgriptiau i'w datblygu, nid eu taflu".

Ond mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod beirniadaeth o ymateb Mr Drakeford gan sawl un ers yr etholiad.

Dywedodd un AC bod Mr Drakeford yn "hunanfodlon" ac yn "amddiffynnol iawn".

Ychwanegodd: "Os na allwn ni weld ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, sut allwn ni ei wella?"

Pan soniodd Mr Drakeford am gyfran y bleidlais yng Nghymru, fe wnaeth un AC weiddi arno gan grybwyll David Hanson - cyn-AS Delyn ers 1992 a gollodd ei sedd i'r Ceidwadwyr.

Dywedodd AC arall bod "llawer o bobl, ac nid yr un rhai ag arfer" yn "rhwystredig ac yn feirniadol iawn" o'i ddadansoddiad.

Ychwanegodd: "Dydy bwrw 'mlaen fel y'n i wedi ei wneud ddim yn opsiwn. Dyna'r union ymateb dydyn ni ddim eisiau."

Aelodau'n 'arbennig o flin'

Dywedodd un arall nad oedd Mr Drakeford wedi "cydnabod pryderon" yr aelodau am Jeremy Corbyn, y maniffesto ar gyfer yr etholiad na gwrth-Semitiaeth.

"Mae aelodau, yn cynnwys aelodau o'r llywodraeth, yn methu credu bod y prif weinidog yn gwrthod derbyn y canlyniad i'r fath raddau," meddai.

"Mae aelodau o ogledd Cymru yn arbennig o flin."

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Mr Drakeford yn datgan cefnogaeth i'r un ymgeisydd i arwain y Blaid Lafur

Fe wnaeth un o gefnogwyr Mr Drakeford gydnabod bod "amrywiaeth barn" yn y cyfarfod, ond bod y drafodaeth yn un "arwynebol".

Mae Mr Drakeford wedi dweud na fydd yn datgan ei gefnogaeth ar gyfer unrhyw un o'r ymgeiswyr i arwain Llafur ar lefel Brydeinig.

Ond wrth ysgrifennu yn y Western Mail, dywedodd ei fod yn chwilio am rywun all gadw "ein syniadau gorau o'r ddau faniffesto diwethaf".

"Mae llawer o'n cynlluniau'n cael eu cefnogi gan ystod eang o etholwyr.

"Ni fyddai gwrthdroi elfennau o'r Blaid Lafur sydd wedi sefyll ers cyfnod hir, ac sy'n boblogaidd, yn newid y cwymp yn ein perfformiad gwleidyddol."