Clinig newydd yn lleihau amser aros am ddiagnosis canser 92%

  • Cyhoeddwyd
ScannerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae canolfan ar gyfer cael diagnosis canser yn sydyn wedi lleihau amseroedd aros hyd at 92% yn ei flwyddyn gyntaf, gan hefyd leihau costau.

Fel rhan o'r cynllun roedd cleifion aeth at eu meddyg teulu gyda symptomau allai fod yn arwydd o ganser yn cael eu gyrru i ganolfan diagnosis sydyn yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod amseroedd aros wedi gostwng i lai na chwe diwrnod.

Mae adroddiad sy'n asesu llwyddiant y cynllun hefyd yn dweud y gallai'r clinig fod yn fwy cost effeithiol na'r ffyrdd traddodiadol o gael diagnosis.

189 o gleifion

Rhwng Mehefin 2017 a Mai 2018 fe wnaeth meddygon teulu gyfeirio 189 o gleifion i'r clinig, oedd yn gweithredu ar ddau ddiwrnod yr wythnos.

Os nad oedd angen asesiadau pellach, cafodd cleifion ddiagnosis mewn 5.9 diwrnod ar gyfartaledd.

Ffynhonnell y llun, Alan Hughes|Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clinig yn cael ei gynnal yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar ddau ddiwrnod yr wythnos

Yn ystod yr astudiaeth cafodd 23 o bobl ddiagnosis o ganser, tra bod 30 arall wedi cael diagnosis o gyflyrau eraill fel briw ar y stumog, methiant yn y galon neu'r diciâu.

Ym mlwyddyn gyntaf yr astudiaeth doedd y clinig ddim yn gweld digon o gleifion i fod yn gost effeithiol, ond erbyn hyn mae'n perfformio'n well na gofal traddodiadol ac yn gweld pedwar neu bump claf pob diwrnod mae ar agor.

Dywedodd awduron yr adroddiad bod y ffigyrau yn awgrymu bod buddion i'r ganolfan, ond eu bod yn bwriadu parhau â'r astudiaeth er mwyn casglu mwy o ddata.