Halfpenny i fethu dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Halfpenny ei anafu mewn gêm yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd

Mae disgwyl i gefnwr Cymru Leigh Halfpenny fethu dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf, yn ôl prif hyfforddwr y Scarlets.

Dywedodd Wayne Pivac fod disgwyl i Halfpenny - sydd eisoes wedi bod allan ers deufis - fethu hyd at bum wythnos arall oherwydd effaith cyfergyd.

Cafodd ei anafu ar ôl derbyn tacl hwyr gan ganolwr Awstralia, Samu Kerevi, ar 10 Tachwedd.

Mae ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau ar 1 Chwefror gyda gêm oddi cartref yn erbyn Ffrainc.

"Mae Leigh wedi bod at yr arbenigwr a ni fydd yn cael ei gynnwys yn y garfan am dair i bum wythnos arall," meddai Pivac.

"Byddwn yn parhau i'w asesu... a bydd yr holl wybodaeth yn cael ei basio i Undeb Rygbi Cymru...

"Penderfyniad Warren [Gatland] fydd hi wedyn oherwydd mae'r gystadleuaeth yn hirach na' hynny."

Ychwanegodd hyfforddwr y Scarlets ei fod yn gobeithio y bydd Jake Ball a Rhys Patchell yn holliach erbyn dechrau'r bencampwriaeth.