Drakeford yn beirniadu 'dinistrio' y gwasanaeth prawf

  • Cyhoeddwyd
Conner MarshallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall o ganlyniad ymosodiad ffyrnig arno ym maes carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl

Mae "dinistrio'r" gwasanaeth prawf yn "staen ar record y llywodraeth Geidwadol flaenorol" gyda "chanlyniadau ymarferol trychinebus", yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Daeth sylwadau Mark Drakeford wrth ateb cwestiwn yn y Senedd yn sgil canlyniad y cwest i lofruddiaeth Conner Marshall - y llanc 18 oed o'r Barri a gafodd ei ladd yn 2015 gan ddyn oedd eisoes ar gyfnod prawf.

Dywedodd y crwner bod y swyddog prawf oedd yn goruchwylio achos y llofrudd, David Braddon, wedi gwneud hynny mewn ffordd "druenus o annigonol".

Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd cefnogi galwad Plaid Cymru i ddatganoli'r gwasanaeth prawf.

Cafodd y gwasanaeth prawf ei wahanu yn 2014 - cam dadleuol oedd yn golygu bod cwmnïau preifat yn gyfrifol am achosion troseddwyr risg isel a chanolig.

Ers Rhagfyr 2019, mae mwyafrif y gwaith monitro ac ailsefydlu troseddwyr yng Nghymru wedi ei drosglwyddo'n ôl i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC).

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Braddon ddedfryd o garchar am oes am lofruddio Conner Marshall yn 2015

Yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price os oedd Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o broblemau gyda'r gwasanaeth, neu unrhyw gynnydd mewn risgiau i ddiogelwch y cyhoedd yn ne Cymru, pan oedd dan ofal y cwmni preifat Working Links.

Atebodd Mr Drakeford - sy'n gyn swyddog prawf ei hun - nad oedd yn gwybod, ond y byddai'n mynd ati i gael y wybodaeth yna.

Ychwanegodd ei fod wedi dadlau nôl yn 1995 o blaid cynnwys y gwasanaeth prawf ar restr gychwynnol o wasanaethau y dylid eu datganoli.

Dywedodd Mr Price: "Mae swyddogion prawf yn dal yn gweithio gan bwysau eithriadol gyda 60% [o'r rhai a atebodd arolwg] yn dweud bod eu llwyth gwaith yn amhosib i'w reoli. Yn syml, ni all hynny barhau."

"Mae Plaid Cymru wedi hen ddadlau y dylai pobl ddod o flaen elw, a phe tasai'r system gyfiawnder wedi ei ddatganoli, bydden ni heb ddilyn y newidiadau trychinebus a gafodd eu gosod gan Lywodraeth y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nadine Marshall ar ddiwedd y cwest bod "y frwydr yn parhau" i geisio atal rhagor o achosion fel yr hyn ddigwyddodd i'w mab

Talodd Mr Drakeford deyrnged i ymgyrch mam Conner, Nadine Marshall, sy'n dweud bod "dim gwersi wedi'u dysgu" a "dim newidiadau cadarn" i'r drefn o reoli achosion.

Cyn ymweld â'r Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mrs Marshall: "Am bron bum mlynedd rydym wedi mynnu atebion a newidiadau i wasanaethau prawf yng Nghymru.

"Byddwn ni'n parhau i godi llais dros Conner a sicrhau bod yr un teulu arall yn cael eu hanwybyddu neu eu gadael heb gefnogaeth."

Dywedodd cyfarwyddwr GPC Cymru, Ian Barrow: "Er i'r crwner nodi nad oedd modd osgoi marwolaeth Conner, does dim amheuaeth bod goruchwyliaeth prawf David Braddon ddim yn ddigon da.

"Rydym nawr wedi derbyn y cyfrifoldeb gan y Cwmni Ailsefydlu Cymunedol am reoli pob troseddwr ar drwydded yng Nghymru, ac mae 800 yn rhagor o swyddogion prawf yn derbyn hyfforddiant ar draws Lloegr a Chymru, a fydd yn helpu gwella diogelu'r cyhoedd."