Llofruddiaeth bwa croes: 'Arf tawel, sydyn a marwol'

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan ym mis Mai

Clywodd achos llofruddiaeth fod pensiynwr o Ynys Môn aeth i geisio trwsio ei loeren teledu wedi ei saethu gan fwa croes - "arf tawel, sydyn a marwol" yn ôl yr erlyniad.

Yn ôl y bargyfreithiwr Keith Roach QC roedd rhywun yn aros y tu allan i dŷ Gerald Corrigan, 74 oed, yn ardal Caergybi ar 19 Ebrill 2019 pan aeth i drwsio'r lloeren.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y follt wedi mynd trwy ei gorff, gan dorri ei goluddyn, ei dduegau neu spleen, a niweidio ei stumog, iau a chleisio'r galon.

Roedd y follt hefyd wedi torri ei fraich.

Pedwar diffynnydd

Mae'r diffynnydd Terence Michael Whall, 39 oed o Fryngwran, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth, gan honni ei fod yn cael cyfathrach rywiol gyda dyn mewn cae cyfagos ar y pryd.

Mae hefyd, ynghyd â thri diffynnydd arall - Darren Jones, 41 o Benrhosgarnedd, Martin Roberts, 34 o Fangor, a Gavin Jones, 36 o Fangor - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r pedwar diffynnydd yn gwadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Jones, Darren Jones, Martin Roberts a Terence Whall yn gwadu'r holl gyhuddiadau

Roedd Mr Corrigan yn byw gyda'i bartner Marie Bailey, 64, yn Gof Du - mewn llecyn tua 30 erw yn ardal Ynys Lawd ger llwybr yr arfordir.

Clywodd y gwrandawiad fod y llecyn yn un diarffordd.

"Dyw hwn ddim yn lle byddwch yn taro heibio ar hap - i fynd yno byddai rhaid bod bwriad i wneud hynny," meddai Mr Roach.

Dywed yr erlyniad fod Mr Corrigan wedi mynd i drwsio'r lloeren rhwng 00:08 a 00:28 oherwydd nam ar y signal.

Yna, meddai'r erlyniad, fe wnaeth deimlo poen ofnadwy gan gredu ei fod wedi cael sioc drydanol.

"Yn sydyn roedd o'n gwaedu a'i fraich wedi torri, roedd o'n meddwl ei fod wedi cael sioc drydanol, ond nid dyna beth ddigwyddodd."

Llwyddodd i fynd i'r tŷ ac roedd yn gwaedu'n drwm, meddai'r erlynydd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr erlyniad fod Gerald Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu

Fe wnaeth parafeddyg gyrraedd y tŷ tua 01:00 gan ddarganfod Mr Corrigan mewn sioc ar ben y grisiau ac yn gofyn am ocsigen.

Cafodd lawdriniaeth frys a thrallwysiad gwaed, a'i roi mewn coma.

Yna fe gafodd ei hedfan i Ysbyty Brenhinol Stoke. Cafodd lawdriniaeth bellach a'i gadw mewn uned gofal dwys.

Fe ddirywiodd ei gyflwr dros gyfnod, ei organau yn methu a datblygodd sepsis. Bu farw ar 11 Mai.

Cofnod o daith mewn cerbyd

Clywodd y rheithgor fod car Land Rover, a oedd yn cael ei ddefnyddio gan bartner Mr Whall, wedi cael ei ddarganfod mewn hen chwarel ger Bangor wedi ei losgi'n ulw.

Dywedodd y diffynnydd fod y cerbyd wedi cael ei ddwyn, ond mae'r heddlu'n dadlau fod Mr Whall wedi ei ddefnyddio adeg y llofruddiaeth.

O fewn y cerbyd roedd teclyn telematic a oedd yn cofnodi holl weithredoedd y cerbyd, fel agor a chau'r drysau a'r gist, a phob siwrne hefyd.

Dywedodd Mr Roach fod y wybodaeth wedi cael ei gadw'n ganolog gan wneuthurwyr y cerbyd, a'i fod wedi dangos bod y car wedi bod ger Gof Du'r noson cyn i Mr Corrigan gael ei saethu.

Y noson ganlynol, mae'r erlyniad yn honni fod y teclyn wedi cofnodi'r hyn maen nhw'n ei gredu oedd Mr Whall yn agor y gist i roi'r bwa croes ynddo, a'i fod yn dangos y cerbyd yn gadael cartref y diffynnydd, ac yn teithio i draeth Porth Dafarch.

Mae'r teclyn wedyn yn cofnodi bod cist y car wedi cael ei agor a'i gau am 23:10 y noson dyngedfennol.

Roedd cofnod wedyn o'r cerbyd yn cael ei ail-agor awr a hanner yn ddiweddarach, cyn cael ei yrru yn ôl i gartref y diffynnydd.

Yn ôl yr erlyniad, roedd camera cylch cyfyng hefyd wedi tynnu llun o'r cerbyd yn cael ei yrru tuag at draeth Porth Dafarch, ac yna yn ôl oddi yno.

'Tanio o bellter o 10 metr'

Dywedodd Mr Roach wrth y rheithgor bod yr heddlu hefyd wedi edrych ar gyfrif Mr Whall ar wefan Amazon, a'i fod wedi prynu bollt fel yr un a laddodd Mr Corrigan.

Yn ôl yr erlyniad, roedd hwn "yn ddarn arall.... yn y jigsô", a phan aeth yr heddlu i archwilio tŷ Mr Whall roedd y rhain, yn ogystal â'i gar a'i ffôn, "wedi diflannu".

Clywodd y llys y bydd arbenigwyr balistig, wrth roi tystiolaeth, yn dweud ei fod yn credu fod y bollt wedi ei danio o bellter o 10 metr.

"Dim ond un follt gafodd ei defnyddio - ac roedd honno wedi ei hanelu yn gywir," meddai Mr Roach.

"Fe allwn feddwl fod y sawl wnaeth ei danio yn gyfarwydd â'r arf, ac mae'n rhaid ei fod wedi ymarfer cyn lladd Mr Corrigan.

"Fe allwn hefyd feddwl bod y lladd wedi golygu cryn gynllunio, ac o asesu'r safle cyn y weithred o ladd."

Ffynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i'r Land Rover yma, oedd yn cael ei ddefnyddio gan gymar Mr Whall, wedi ei losgi mewn chwarel ger Bangor

Mewn cyfweliad heddlu, dywedodd Mr Whall nad oedd erioed wedi cwrdd â Mr Corrigan na Ms Bailey.

Clywodd y llys iddo honni bod yng nghwmni cyfaill, Barrie Williams, noson y llofruddiaeth a bod y ddau ddyn mewn perthynas.

Dywedodd bod y ddau wedi teithio i faes parcio traeth Porth Dafach a chael rhyw mewn caeau cyfagos.

Yn ôl Mr Roach, fe ddywedodd Mr Whall wrth blismyn ei bod wedi agor cist y car i symud bag yn cynnwys menig rwber, cyffion ac olew babi.

Ond dywedodd Mr Roach wrth y rheithgor bod Mr Williams yn debygol o roi tystiolaeth nad welodd y diffynnydd y noson honno.

Mae'r pedwar diffynnydd yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.