Achos bwa croes: Twyll honedig o £250,000

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan ym mis Mai

Mae'r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio'r pensiynwr Gerald Corrigan wedi clywed tystiolaeth gan bartner Mr Corrigan am dwyll honedig o £250,000 yn eu herbyn.

Bu farw Mr Corrigan, 74 oed, wedi digwyddiad y tu allan i'w dŷ ger Caergybi ar 19 Ebrill 2019 pan aeth i drwsio dysgl loeren teledu.

Roedd wedi ei saethu gan fwa croes, a bu farw yn yr ysbyty ym mis Mai.

Croesholi

Wrth gael ei chroesholi gan y bargyfreithiwr David Elias QC ar ran y diffynnydd Terence Michael Whall o Fryngwran, dywedodd Marie Bailey ei bod hi a Gerald Corrigan wedi rhoi arian i ddyn o'r enw Wyn Lewis am dri chynllun.

Roedd y taliadau ariannol dros gyfnod o 18 mis ac 20 taliad yn gyfanswm o £250,000, a hynny ar gyfer adnewyddu eu heiddo, adnewyddu eiddo mam Mr Corrigan, ac er mwyn prynu tir ym Môn er mwyn adeiladu eiddo arno i'w werthu am elw.

Ni chafodd y ddau anfonebau am y taliadau meddai Marie Bailey wrth y llys.

Dywedodd ei bod wedi mynd i aros gyda "Wyn" ar y diwrnod y cafodd Mr Corrigan ei saethu, gan gredu ei fod yn ffrind. Roedd wedi ei pherswadio i fynd i aros ato, gan ychwanegu fod ei thŷ bellach yn lleoliad trosedd "ac roeddwn yn fregus iawn...doedd nulle arall i mi fynd".

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr erlyniad fod Gerald Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu

Bryd hynny dywedodd fod Mr Lewis wedi gofyn iddi gadw gwybodaeth am yr arian rhag yr heddlu.

Dywedodd hefyd fod dau ddyn arall wedi bod yn rhan o'r cytundeb am yr arian, ac roedd Mr Lewis wedi gofyn iddi beidio â chrybwyll eu henwau i'r heddlu hefyd.

"Roeddwn yn ei dŷ...doedd dim tystion i'r hyn yr oedd wedi ei ddweud wrthof fi" meddai, gan ychwanegu ei bod wedi gadael wedyn a'i bod yn "falch iawn" o ddianc oddi wrtho. Dywedodd ei bod yn credu ei bod i raddau "mewn perygl hyd yn oed petaswn i'n aros gydag o".

Ceffyl

Clywodd y llys ei bod wedi talu £7,000 i Wyn Lewis am geffyl o'r Iwerddon ar un cyfnod, ond nad oedd wedi gweld dim am y taliad hwnnw.

Fe glywodd y rheithgor fod arian Ms Bailey a Mr Corrigan wedi dod i ben yn yr "wythnos a dyddiau" cyn iddo gael ei saethu.

"Fe ddywedodd Gerry yn y diwedd nad oedd mwy...roedden ni'n dau wedi rhedeg allan o arian". Ychwanegodd fod Mr Corrigan wedi dweud wrth Wyn "nad oedd mwy o arian ar ôl".

Roedd Ms Bailey yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo o ran arall o'r adeilad.

Cyfweliad heddlu

Yn gynharach ddydd Llun, clywodd y rheithgor dâp o gyfweliad yr heddlu gyda Marie Bailey yn y dyddiau yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd ei bod wedi mynd i'r gwely am tua 21:00 y noson honno, ac yn ddiweddarach fe gafodd ei deffro gan sŵn "Gerry'n gweiddi".

Esboniodd sut yr oedd braich Mr Corrigan wedi ei thorri a'i fod y gwaedu a bod angen iddi godi o'r gwely i'w gynorthwyo:

"Sut y llwyddodd o i ddod i fyny'r grisiau, dwi ddim yn gwybod", meddai. Ychwanegodd fod ei chymar "mewn poen...mewn llawer o boen" a'i fod yn "gwaedu'n drwm" gan "lefain yn uchel ei fod mewn llawer o boen."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llafn saeth debyg i'r un gafodd ei saethu yn y llofruddiaeth

Fe alwodd hi am gymorth y gwasanaethau brys ddwywaith meddai, gan esbonio ei bod ag anableddau ac ni fyddai wedi gallu bod o gymorth i'w gario i'r car. Ychwanegodd nad oedd Mr Corrigan "wedi gadael iddi edrych ar ddim...dim ond yn gafael yn ei ochr".

"Ar y pryd doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fod wedi anafu ei ochr hefyd" meddai, ac fe ychwanegodd ei fod yn credu ei fod yn cael trawiad ar y galon a bod angen i'r gwasanaethau brys ruthro yno.

Ychwanegodd Marie Bailey fod Mr Corrigan yn dweud "ei fod yn gwaedu...a'i fod yn mynd i waedu i farwolaeth yn fuan...roedd yn ofnus iawn, iawn, ac mewn llawer o boen."

Tyfu canabis

Fe ddaeth i'r amlwg hefyd fod Mr Corrigan wedi caniatau i ganabis gael ei dyfu mewn adeiladau ar ei eiddo rhyw ddwy flynedd cyn y digwyddiad.

Dywedodd Ms Bailey: "Fe wnaeth Gerry adael i Wyn dyfu ychydig o ganabis... ychydig blanhigion oedd i fod."

Pan ganfuodd Mr Corrigan fod llawer mwy yn cael ei dyfu yno roedd yn "flin iawn," meddai.

"Fe orfododd Wyn i dynnu'r planhigion yn syth ac o fewn 12 awr roedden nhw wedi mynd."

Cafodd ei holi hefyd am gynlluniau Mr Corrigan i sefydlu cyfrif banc dramor.

Atebodd nad oedd yn gwybod am hynny, ond cytunodd ei fod "yn gobeithio sefydlu cyfrif dramor fel na fyddai'n rhaid iddo dalu treth".

Diffynyddion

Mae'r diffynnydd yn yr achos, Terence Michael Whall, 39 oed o Fryngwran, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac un diffynnydd arall, Gavin Jones, 36 o Fangor - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r ddau diffynnydd yn gwadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.

Ddydd Llun fe blediodd dau ddiffynnydd arall, Martin Roberts a Darren Jones, yn euog i gynnau tân yn fwriadol.

Mae'r achos yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Gavin Jones, Darren Jones, Martin Roberts a Terence Whall