Gyrrwr wedi marw bythefnos ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
![Victor Moore](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B487/production/_110751264_victormooreblurred.jpg)
Mae teyrnged wedi cael ei roi i yrrwr 75 oed sydd wedi marw bythefnos wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Stryd Blanche yn ardal Waunadda y ddinas am 17:00 ddydd Gwener, 17 Ionawr, pan darodd car Toyota MPV yn erbyn cerbyd arall a thŷ.
Er i Victor Moore gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd daeth cadarnhad ddydd Llun ei fod wedi marw o'i anafiadau.
Mae'n gadael partner a'u dau blentyn.
Mewn teyrnged iddo dywedodd ei deulu ei fod yn ddyn busnes a oedd wedi symud i Gymru o Sir Derby yn 2016 am fod eu meibion yn fyfyrwyr yn y brifysgol.
Dywedodd ei bartner, Cherry Hyde, ei fod yn caru pob math o gerddoriaeth ac y byddan nhw'n gweld ei eisiau'n fawr.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un welodd y digwyddiad, neu arhosodd i gynorthwyo, i gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2020