Liam Williams i golli dwy gêm nesaf Cymru yn y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Williams wedi ennill 62 o gapiau dros Gymru

Mae'n annhebygol y bydd Liam Williams ar gael i chwarae i Gymru tan ddwy gêm olaf y Chwe Gwlad, yn ôl hyfforddwr amddiffyn Cymru Byron Hayward.

Bydd y cefnwr yn colli'r ddwy gêm nesaf yn erbyn Iwerddon a Ffrainc ond gall fod yn barod i chwarae yn erbyn Lloegr ar 7 Mawrth.

"Mae Liam yn dioddef tipyn bach ar hyn o bryd," meddai Hayward wrth gynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth.

Ychwanegodd bod y gêm yn Nulyn ddydd Sadwrn "ychydig yn rhy gynnar i Liam".

"Rydyn ni bosib yn edrych ar y bedwaredd neu phumed gêm y bencampwriaeth," meddai.

Dydy Williams heb chwarae ers buddugoliaeth Cymru yn erbyn Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd ym mis Hydref.

Roedd yn rhaid i Williams gael llawdriniaeth ar ôl dioddef anaf i'w ffêr yn Japan.

Mae'r bachwr Elliot Dee, y mewnwr Gareth Davies a'r canolwr Owen Watkin oll ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon wedi iddyn nhw golli gêm gyntaf Cymru yn erbyn Yr Eidal.