Galw Dewi Lake a Taine Basham i garfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi ychwanegu'r bachwr Dewi Lake a'r chwaraewr rheng-ôl Taine Basham i'w carfan ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae'r ddau chwaraewr, sy'n gyn-aelodau o dîm dan-20 Cymru, wedi bod yn hyfforddi gyda'r garfan cyn cael eu dewis yn ffurfiol ddydd Mercher.
Dyma fydd y tro cyntaf i Lake, sy'n 20 oed ac yn chwarae i'r Gweilch, ymuno â'r garfan, tra bod Basham, sy'n 20 oed ac yn chwarae i'r Dreigiau, wedi bod yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn y Barbariaid fis Tachwedd.
Mae disgwyl i Wayne Pivac gyhoeddi ei dîm terfynol i wynebu Iwerddon am 11:00 dydd Iau.
Bydd y gêm honno yn Nulyn am 14:15 ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020