Radio 4 yn rhannu hanes Tryweryn gyda chynulleidfa newydd
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen radio Saesneg yn cyflwyno hanes boddi Capel Celyn i gynulleidfa newydd.
Y darlledwr Guto Harri yw cyflwynydd Remembering Tryweryn ar BBC Radio 4. Yma mae'n egluro ei falchder am gael y cyfle i rannu hanes sydd mor gyfarwydd iddo - nid oherwydd yr elfen Gymreig iddi, ond oherwydd ei bod hi'n stori gwerth ei hadrodd.
Mae rhai ohonon ni wedi tyfu i fyny gyda Tryweryn, os y'n ni'n Gymry Cymraeg, yn enwedig o gefndiroedd weddol genedlaetholgar - mae'n rhan o'n chwedloniaeth ni a'n magwraeth ni.
Ond mae hyd yn oed Cymry di-Gymraeg yn aml ddim yn gwybod llawer am Tryweryn.
Ac yn y rhaglen, yn un o'r cyfweliadau, mae Mari Emlyn, sydd wedi cynhyrchu llyfr ar y murluniau, yn dweud ei bod hi mewn tafarn yn Y Felinheli rai misoedd yn ôl, ac o'dd 'na Gymro Cymraeg yna oedd ddim yn gwybod beth oedd hanes Tryweryn.
Felly pan mae yna lawer ohonon ni'r Cymry ddim yn gwybod gymaint â hynny, 'dyw hi ddim syndod fod y Saeson ddim.
Ges i sioc yn ddiweddar i weld bod The Crown, y gyfres Netflix, wedi gwneud rhaglen gyfan, mwy neu lai, am Prince Charles yn Aberystwyth. Ac o'n i'n rhyfeddu cystal dealltwriaeth oedd i lawer o'r materion Cymraeg.
Yn y rhaglen yna, o'dd Tedi Millward, yr athro ddysgodd Gymraeg i'r Tywysog, wedi egluro hanes Tryweryn iddo fe, ac - yn ôl Netflix, o leia' - roedd y Tywysog yn llawn cydymdeimlad, ac yn deall pam fod yr holl beth mor bwerus.
Felly os oes darlledwr byd-eang fel Netflix yn gallu trin straeon Cymreig gyda dealltwriaeth, deallusrwydd a sensitifrwydd, yna dylai cyfryngau nes at adre' allu gwneud hynny.
A dyna pam mae'n beth cystal bod Radio 4 wedi comisiynu'r rhaglen.
'Dim agenda Cymreig'
Mae'n rhaid i fi gyfadde', ges i'n siomi ar yr ochr ore' bod nhw, ddim jest â diddordeb yn gwneud y rhaglen, ond eu bod nhw wedi rhoi slot flaenllaw iddi.
Dwi 'di gweld pethau ofnadwy dros y blynydde. Ges i'n anfon i is-etholiad Ogwr gyda Newsnight, flynyddoedd maith yn ôl. O'dd y camera a'r cynhyrchydd wedi mynd o 'mlaen i, ac erbyn i fi gyrraedd, roedd y cynhyrchydd, oedd yn amlwg ddim wedi bod i Gymru lot, yn brolio ei bod hi wedi llwyddo i gael pithead, pyst rygbi a dafad yn yr un shot...
Yn amlwg, 'nes i ddim defnyddio'r shot.
Roedd lefel y stereoteipio, y diffyg dealltwriaeth, yn gallu bod yn warthus. Fydde'r math yna o ddiffyg dealltwriaeth a gwerthfawrogiad yn rhannau eraill o'r byd yn dwyn sen ac embaras ar rywun.
Ond os oedd rhywun yn hyrwyddo stori o Gymru, o'dd 'na ryw dybiaeth bod yna rhyw fath o agenda Cymreig, yn hytrach na bod y stori jest yn haeddu bod yna achos ei bod hi'n stori newyddion dda.
Ac mae stori Tryweryn jest yn stori oesol, ac yn stori sydd yn gweithio dros y byd i gyd; does yna ddim rhaid jest ei dweud hi o bersbectif plwyfol Cymraeg. Mae'n stori am y dyn bach - neu yn hytrach y gymuned fach - yn erbyn y gorfforaeth fawr. Stori am iaith leiafrifol yn cyd-fyw yn anghysurus gyda un o ieithoedd mwya'r byd.
Stori am systemau yn torri lawr. Stori am analluogrwydd i frwydro yn erbyn cyfundrefn sydd yn cael ei gweld yn sylfaenol annheg.
Mae hefyd yn stori, i fi, o oruchafiaeth, yn y pen draw. Mae'r ffaith fod gymaint wedi ei wneud i gofio Tryweryn yn y flwyddyn ddiwetha' yn dangos bod y tân yn y bol erbyn hyn, a dyw Cymru ddim mor 'wan ac analluog' nac amharod i amddiffyn ei hun.
Ydy, mae'n stori am y bobl a gollodd eu tai a'r gymuned a foddwyd, ond mae'n stori o lwyddiant yn y pen draw. O Gymru yn deffro a'r ysbryd yn tanio.
Felly o'dd hi'n hyfryd i allu cael y cyfle i wneud hynny a rhannu'r stori yna, ddim jest i Gymry Cymraeg sydd yn gwybod y stori ac wedi hen wneud eu meddyliau lan amdani, ond i gynulleidfa fydd yn clywed stori Tryweryn am y tro cyntaf.
Mae Remembering Tryweryn ar BBC Radio 4 am 11.30 dydd Iau 6 Chwefror, ac ar gael ar BBC Sounds wedi'r darllediad
Hefyd o ddiddordeb: