Dau yn gwadu achosi marwolaeth y cynghorydd Paul James

  • Cyhoeddwyd
Christopher Jones a Lowri Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christopher Jones a Lowri Powell yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

Mae dau berson wedi ymddangos yn y llys i wadu achosi marwolaeth cynghorydd sir o Geredigion.

Cafodd Paul James, oedd yn 61 oed, ei ladd pan gafodd ei daro oddi ar ei feic ar gyrion Aberystwyth ym mis Ebrill y llynedd.

Fe blediodd Lowri Powell, 43 oed o Benrhyncoch, a Christopher Jones, 40 oed o Bontarfynach, yn ddieuog i ddau gyhuddiad ar wahân o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth heb amodau.

Bydd y ddau yn dychwelyd i'r llys ar 1 Medi, gyda'r achos i bara pedwar diwrnod.