Y Sgowtiaid yn 'peryglu bywydau pobl ifanc', medd crwner

  • Cyhoeddwyd
Ben Leonard
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ben Leonard wedi ennill medal aur gyda'r sgowtiaid ac yn gerddwr profiadol

Mae crwner wedi beirniadu Cymdeithas y Sgowtiaid yn hallt yn dilyn marwolaeth bachgen fu farw ar ôl disgyn oddi ar y Gogarth yn Llandudno.

Bu farw Ben Leonard, 16 oed o Stockport, ym mis Awst 2018 ar ôl syrthio tua 200 troedfedd.

Gyda'r cwest yn dirwyn i ben ddydd Gwener, fe anfonodd Crwner Cynorthwyol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru y rheithgor adref wedi i dystiolaeth newydd ddod i law.

Daeth i'r amlwg bod y tri arweinydd ar y daith i'r Gogarth ar ddiwrnod marwolaeth Ben wedi cael eu rhoi ar ddyletswyddau cyfyngedig ers hynny.

Cyhoeddodd y crwner David Pojur adroddiad damniol gan ddweud nad oedd y daith yn cadw at bolisïau Cymdeithas y Sgowtiaid ei hun.

Ni chafwyd asesiad risg ac nid oedd dealltwriaeth lawn o beth yw asesiad risg chwaith, meddai.

Nid oedd gan yr arweinwyr restr gyflawn o enwau'r bechgyn ar y daith ac roedd pob un o'r arweinwyr yn tybio bod Ben a'i ffrindiau gydag un o'r arweinwyr eraill pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain mewn gwirionedd.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ben Leonard ar ôl syrthio oddi ar ddibyn ger pen Y Gogarth

Mae Mr Pojur hefyd yn feirniadol bod Cymdeithas y Sgowtiaid wedi methu â darparu gwybodaeth lawn i'r cwest am yr hyn a ddigwyddodd i'r arweinwyr ar ôl y daith.

Ychwanegodd fod y pwyslais ar hierarchaeth o fewn y mudiad yn golygu na all wybod a yw Iechyd a Diogelwch yn cael ei weithredu'n effeithiol ar lawr gwlad.

I gloi dywedodd Mr Pojur: "Mae bywydau pobl ifanc yn cael eu peryglu gan fethiant Cymdeithas y Sgowtiaid i gydnabod annigonolrwydd eu harfer gweithredol a'r rhan y mae hyn wedi'i chwarae ym marwolaeth Ben."

Mae gan Gymdeithas y Sgowtiaid 56 diwrnod i ymateb, ac maen nhw wedi cael cais am sylw.

Gwrthododd teulu Ben wneud sylw ar ôl y cwest.