Pum mlynedd o garchar i nyrs am achosi marwolaeth gyrrwr
- Cyhoeddwyd
![Cerys Price](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5991/production/_110792922_3eac7aee-8dde-4630-bf78-d5794d07202b.jpg)
Cerys Price yn cyrraedd Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau cyn cael ei dedfrydu
Mae nyrs wedi ei dedfrydu i bum mlynedd a phedwar mis o garchar am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Fe wnaeth car Cerys Price o Fryn-mawr groesi ar draws llain ganolog yr A467 i'r lôn anghywir yn ardal y Tŷ-du ar 1 Gorffennaf 2016, gan daro yn erbyn Vauxhall Astra oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.
Bu farw gyrrwr y Vauxhall Astra, Robert Dean, o'i anafiadau, a chafodd teithiwr yng nghar Price anafiadau difrifol.
Dangosodd profion gwaed fod gan Price, 28, lefelau eithriadol o uchel o gyffur lladd poen yn ei system.
![Robert Dean](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14009/production/_110792918_robertdean.jpg)
Bu farw Robert Dean, 65, yn y gwrthdrawiad yn 2016
Roedd 1803 microgram o'r cyffur Tramadol i bob mililitr o waed yn ei chorff - llawer uwch na'r lefel sy'n cael ei argymell, sef 400 microgram i bob mililitr o waed.
Roedd wedi prynu'r cyffur tra'n ymweld â Mecsico, ac nid dan bresgripsiwn.
Dywedodd Kelly Huggins o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Ag hithau'n nyrs cymwysedig, fe ddylai Cerys Price fod wedi gwybod am beryglon gyrru ar ôl cymryd y tabledi hyn, ond fe yrrodd beth bynnag.
"Fe gafodd ei gweithred ganlyniad trasig i yrrwr diniwed, i'r teithiwr yn ei char, ac iddi hi ei hun.
"Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Dean yn ystod y cyfnod anodd hwn."
![Izusu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14B0D/production/_110794748_682be1d7-41b1-48a3-baac-506eaeef2f1e.jpg)
Cerbyd Isuzu D-Max Cerys Price yn dilyn y gwrthdrawiad
Dywedodd y Barnwr Michael Fitton wrth Cerys Price: "Rydych yn amlwg yn fenyw alluog, huawdl, yn allanol hyderus ond yn llai hyderus yn fewnol.
"Mae gennych chi gymwysterau gwych ac fe fuoch chi'n gweithio am gryn amser fel nyrs mewn amgylchedd caled a heriol.
"Nid ydych yn berson y byddai eich teulu a'ch ffrindiau yn disgwyl ei weld yn llys y goron. Rydych wedi chwalu eich enw da ac rydych wedi chwalu eich gyrfa bresennol."
Ychwanegodd y barnwr: "Rwy'n dychmygu nad ydych yn gallu cyfaddef i'ch teulu'r lefelau o Tramadol yr oeddech yn ei gymryd.
"Mewn amser, os byddwch yn mynd i'r afael a'r materion yn yr achos hwn, fe fydd modd i chi ail-adeiladu eich bywyd.
"Fe allwch, ac fe fyddwch yn dod dros hyn. Dyw Mr Dean heb gael y cyfle i wneud hynny."
![Cyffur](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E9B5/production/_110792895_72e3e7cc-d3a9-4c6d-bb2e-c22333b1ff29.jpg)
Daeth yr heddlu o hyd i'r cyffur Tramadol yng nghar Cerys Price yn dilyn y gwrthdrawiad
Yn dilyn y dedfrydu, dywedodd y Sarjant Bob Witherall o Heddlu Gwent: "Penderfyniad Cerys Price oedd gyrru, hyd yn oed ar ôl cymryd cyffuriau cryf lladd poen heb bresgripsiwn.
"Boed hyn yn rhybudd i yrwyr eraill am y canlyniadau trychinebus a pheryglon camddefnyddio cyffuriau heb bresgripsiwn a gyrru."
Bydd modd dilyn hanes ymchwiliad yr heddlu i'r achos yn rhaglen Crash Detectives, nos Lun nesaf, 10 Chwefror am 20:30 ar BBC One Wales, a BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2019