Nick Tompkins yn dechrau i Gymru i herio Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Bydd canolwr Saracens, Nick Tompkins yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth Tompkins greu argraff ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn y fuddugoliaeth dros Yr Eidal y penwythnos diwethaf, gan sgorio cais.
Bydd yn rhaid i'r asgellwr, Johnny McNicholl, fodloni am le ar y fainc, wrth i George North symud o'r canol i'r asgell.
Dyna'r unig newid yn y 15 sy'n dechrau, ond mae nifer o newidiadau ar y fainc.
Mae'r prop Rhys Carré yn cymryd lle Rob Evans tra bod Cory Hill yn colli ei le i Adam Beard oherwydd anaf.
Ymysg yr olwyr ar y fainc mae Gareth Davies wedi'i ddewis o flaen Rhys Webb ac Owen Williams yn cymryd lle Jarrod Evans.
Mae rhybudd am dywydd garw mewn grym yng Nghymru ac Iwerddon dros y penwythnos, gyda phryder y gallai hynny effeithio ar drefniadau teithio cefnogwyr o Ddulyn.
Fe wnaeth Iwerddon gyhoeddi eu tîm ddydd Mercher, gyda'r prif hyfforddwr Andy Farrell yn gorfod gwneud dau newid o'r tîm drechodd Yr Alban oherwydd anafiadau.
Bydd y canolwr Robbie Henshaw yn cymryd lle Garry Ringrose, tra bod Peter O'Mahony yn dechrau yn y rheng-ôl yn lle Caelan Doris.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carré, Leon Brown, Adam Beard, Ross Moriarty, Gareth Davies, Owen Williams, Johnny McNicholl.
Tîm Iwerddon
Jordan Larmour; Andrew Conway, Robbie Henshaw, Bundee Aki, Jacob Stockdale; Jonathan Sexton (capt), Conor Murray; Cian Healy, Rob Herring, Tadhg Furlong, Iain Henderson, James Ryan, Peter O'Mahony, Josh van der Flier, CJ Stander.
Eilyddion: Ronan Kelleher, Dave Kilcoyne, Andrew Porter, Devin Toner, Max Deegan, John Cooney, Ross Byrne, Keith Earls.
Amserlen y gemau
Sadwrn 1 Chwefror, 14:15 - Cymru 42-0 Yr Eidal
Sadwrn 8 Chwefror, 14:15 - Iwerddon v Cymru
Sadwrn 22 Chwefror, 16:45 - Cymru v Ffrainc
Sadwrn 7 Mawrth, 16:45 - Lloegr v Cymru
Sadwrn 14 Mawrth, 14:15 - Cymru v Yr Alban
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020