Butchers a Johnes yn dechrau i Gymru yn erbyn Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Alisha Butchers an Manon JohnesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Alisha Butchers a Manon Johnes ymlaen o'r fainc y penwythnos diwethaf

Mae Chris Horsman wedi gwneud dau newid i dîm merched Cymru i herio Iwerddon ddydd Sul, gyda'r blaenasgellwyr Alisha Butchers a Manon Johnes yn dod i mewn i'r 15.

Mae'r ddwy yn cymryd llefydd Alex Callender a Bethan Lewis, sy'n symud i'r fainc.

Cafodd Cymru eu trechu 15-19 mewn gêm agos yn erbyn Yr Eidal y penwythnos diwethaf.

Bydd Cymru'n herio Iwerddon yn Stadiwm Donnybrook yn Nulyn am 13:00 brynhawn Sul.

Tîm merched Cymru

Kayleigh Powell; Jasmine Joyce, Hannah Jones, Kerin Lake, Lisa Neumann; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Cerys Hale, Natalia John, Gwen Crabb, Alisha Butchers, Manon Johnes, Siwan Lillicrap (capt).

Eilyddion: Molly Kelly, Cara Hope, Ruth Lewis, Georgia Evans, Alex Callender, Bethan Lewis, Ffion Lewis, Paige Randall.