Galw am 'strategaeth hirdymor' i ddiwydiant cerdd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen "strategaeth hirdymor sy'n cael ei siapio gan y diwydiant cerdd" er mwyn sicrhau nad yw talent cerddorol yn cael ei golli, yn ôl un o sêr y sîn yng Nghymru.
Yn ôl Andrew Walton, sy'n perfformio fel y Welsh Whisperer, mae angen "mwy o gyngor" i artistiaid newydd ar sut i ddelio â biwrocratiaeth cyhoeddi caneuon.
Yn ôl prif weithredwr Sain, Dafydd Roberts maen nhw wedi bod yn galw am sefydlu corff tebyg "ers blynyddoedd".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Cymru Greadigol yn darparu cefnogaeth angenrheidiol i artistiaid.
Ers pum mlynedd mae'r Welsh Whisperer wedi bod yn perfformio ar draws Cymru ac yn cydweithio gydag ysgolion i ddatblygu cerddoriaeth.
Yn ei ôl ef, pobl o fewn y diwydiant fel "cerddorion, hyrwyddwyr a labeli" ddylai lunio'r strategaeth.
Mae angen corff "sy'n rhoi cefnogaeth i artistiaid, achos mae sawl rheswm yn y pendraw i rywun rhoi'r gorau i berfformio", meddai.
"Y darn anodd yw troi fyny ddim yn gwybod beth i ddisgwyl - byddai cyngor gyda phethau fel cofrestru caneuon a blaendal yn ddefnyddiol," meddai Mr Walton.
"Mae'r rhain yn feysydd eithaf cymhleth".
'Byd cymhleth'
Ers i'r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig - asiantaeth oedd yn darparu cefnogaeth gydag arian Llywodraeth Cymru - ddod i ben yn 2014, mae label Sain wedi bod yn galw am fwy o gefnogaeth.
"Mae'n fyd cymhleth, yn enwedig efo hawlfreintiau, a dyna fyddai'n dda pe bai yna gorff," meddai Mr Roberts.
"Byddai rhywun yn gallu cynnig hyfforddiant, gweithdai am hawlfreintiau a sut i fynd ati i recordio, cael rheolwyr, allforio deunydd ac ati.
"Mae'n bwysig fod 'na gorff efo strategaeth."
Yn ymateb i'r galwadau dywedodd Llywodraeth Cymru fod Cymru Greadigol - corff sy'n gweithredu dan gymorth ariannol y llywodraeth - yn cynnig cymorth i artistiaid a "lleoliadau lleol i berfformio".
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn "gweithio gyda chronfa'r PRS (Performing Right Society) a PYST i gefnogi artistiaid".
"Amcan Dydd Miwsig Cymru yw hybu'r iaith Gymraeg trwy gerddoriaeth, ond mae hefyd yn helpu artistiaid trwy godi proffil cerddoriaeth iaith Gymraeg," meddai.
"Y llynedd, cyrhaeddodd yr ymgyrch bron i 130 miliwn o bobl ar draws amrywiaeth o blatfformau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019