Chwe Gwlad Merched Iwerddon 31-12 Merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd tîm merched Cymru brynhawn anodd yn Nulyn, ac nid dim ond oherwydd yr amodau heriol ar Barc Energia yn nannedd Storm Ciara.
Sgoriodd y cefnwr, Lauren Smyth a'r capten, Siwan Lillicrap gais yr un i Gymru ac roedd yna un trosiad gan Robyn Wilkins yn erbyn tîm cryf Iwerddon.
Ond roedd y Gwyddelod yn fuddugol, gyda sgôr o 31-12 a phwynt bonws, yn dilyn ceisiau gan Breibhinn Parsons, Cliodhna Moloney, Lauren Delany a Linda Djoungang a throsiadau a chic gosb Claire Keohane.
Daeth cais Smyth ym munudau olaf yr hanner cyntaf i wneud y sgôr yn 17-5 ar yr egwyl.
Fe diriodd Lillicrap wedi 47 o funudau i daro'n ôl wedi i'r gwrthwynebwyr sgorio'u pedwerydd cais ym munudau agoriadol yr ail hanner.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru ar waelod y tabl wedi dwy gêm.
Ffrainc fydd eu gwrthwynebwyr nesaf yn y bencampwriaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2020