Tro-pedol posib ar safle ailgylchu yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
canolfan Hendy-gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan ailgylchu Hendy-gwyn ar Daf yn gwasanaethu pobl gorllewin Sir Gaerfyrddin

Mae'n ymddangos bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ailystyried cynlluniau i gau canolfan ailgylchu Hendy-gwyn ar Daf mewn ymdrech i arbed arian.

Dywedodd llefarydd fod "ymateb cryf" wedi bod yn erbyn y cynlluniau mewn ymgynghoriad diweddar a'u bod felly'n "debygol o dynnu'r cynnig yn ôl".

Yn wreiddiol, roedd sôn y gallai'r ganolfan gau yn 2020-21 gan arbed £80,000 y flwyddyn.

Dywedodd Ffion Scourfield, aelod o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf: "Ni'n rili bles hyd yn hyn i glywed beth ddaeth mas gan y cyngor.

"Dyw e ddim yn newyddion cadarn ond mae hi'n debygol y bydd y safle yn aros ar agor."

Pe byddai'r safle wedi cau, byddai pobl yr ardal wedi gorfod teithio i ganolfan ailgylchu Nant-y-caws - taith o ryw 17 milltir.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Ffion Scourfield y bydd yr ymgyrch i ddiogelu'r safle yn parhau

Mae'r sir yn ceisio gwneud arbedion o £16.5m yn ystod y tair blynedd nesaf.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi cynnal ymgynghoriad gyda'r cyhoedd ynglŷn ag opsiynau ar gyfer arbedion.

"Er y bydd y rhan fwyaf o'r arbedion hyn yn cael eu gwneud yn fewnol, cafodd cynigion ynghylch arbedion gwerth £2.2m a allai effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir eu cyflwyno i'r cyhoedd."

Rhai o'r ystyriaethau eraill er mwyn arbed arian oedd cwtogi diwrnodau agor y ganolfan yn Hendy-gwyn ar Daf a chanolfan Wern-ddu yn Rhydaman o saith diwrnod i bump.

Roedd 2,000 o bobl wedi ymateb i'r ymgynghoriad - yr ymateb mwyaf erioed, meddai'r llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor eto i ystyried a ydyn nhw am newid amseroedd agor y ganolfan

Yn ôl y Cynghorydd Scourfield mae'r ymgyrch i ddiogelu dyfodol y safle yn Hendy-gwyn ar Daf yn parhau a bydd cyfarfod cyhoeddus yn y dref nos Wener.

"Os ydyn nhw eisiau cau rhai diwrnod, mae'n bwysig fod y cyhoedd yn trafod gyda'r cyngor sir," meddai.

"Mae'r penwythnos yn rili bwysig i bobl sydd yn gweithio."

Mae'r ymgynghoriad ar y gyllideb yn dod i ben ar 28 Ionawr a bydd y Bwrdd Gweithredol yn penderfynu ar 24 Chwefror pa gynigion i'w cyflwyno i aelodau'r cyngor llawn.