Dechrau gwaith o adfer giatiau hanesyddol ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o adfer giatiau haearn hanesyddol Sant Cybi wedi dechrau a bydd yn cymryd 10 wythnos i'w gwblhau.
Mae'r giatiau addurniadol Gradd II bellach yn darparu mynediad i'r fynwent isaf ar Ffordd Fictoria yng Nghaergybi.
Mae'r safle'n dyddio'n ôl i gyfnod hwyr y Rhufeiniad yn ystod y drydedd ganrif, sy'n ei wneud yn safle unigryw.
Ond dros y blynyddoedd mae halen y môr yn yr aer wedi effeithio ar y gwaith haearn gan achosi rhwd sylweddol.
Bydd yr holl olion halen yn cael eu tynnu oddi ar y giatiau a bydd haen amddiffynnol yn cael ei roi arno gyda phaent i'w hamddiffyn rhag effeithiau'r amgylchedd morol yn y dyfodol.
Mae'r gwaith yn cynrychioli cam cyntaf cynllun buddsoddi ehangach, sydd wedi ei reoli gan Gyngor Sir Ynys Môn, ar safle Sant Cybi dros y 12 i 18 mis nesaf.
Drwy'r Fenter Treftadaeth Treflun Caergybi, sicrhaodd Cyngor Sir Ynys Môn grantiau gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn gallu trwsio ac adfer y giatiau.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Datblygu Economaidd Cyngor Môn, y byddair "prosiect yn diogelu rhan fach ond hynod bwysig o hanes Caergybi".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2018