Anrheg Nadolig i eglwys hanesyddol ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy'r Dolig, mae gan un eglwys ar Ynys Môn reswm arall i ddathlu wrth ddod gam yn nes at sicrhau gwaith atgyweirio sydd ei angen ar frys.
Mae'r cerrig tu mewn a thu allan i Eglwys Sant Cybi - sy'n dyddio'n ôl i'r oesoedd canol cynnar - wedi dirywio yn y tywydd garw ac mi fydd yn costio £250,000 i'w hachub.
Ond diolch i grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac ymdrechion codi arian yn lleol, maen nhw bron â chyrraedd y nod.
Mi fu'r eglwys yn dathlu'r newyddion yn eu gwasanaeth blynyddol i nodi dechrau eu Gŵyl Coed Nadolig, lle mae bob coeden yn cynrychioli un o fusnesau neu elusennau'r dre' - gweithred sy'n brawf bod yr eglwys yn rhan ganolog o fywyd Caergybi.
"Dwi'n falch iawn bod y gwaith yn mynd yn ei flaen," meddai un o aelodau Sant Cybi, Elwyn Owen.
"Mae'n eglwys hynafol - fel mae'n sefyll rŵan mae'n dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif. Ond wrth gwrs roedd 'na eglwys yma yn y bumed ganrif, wedi'i sefydlu gan Cybi Sant.
'Pwysig i'r gymuned'
"Y drwg ydy bod y tywydd wedi difrodi'r cerrig tu allan a thu mewn felly mae angen gwaith yn arbennig o sydyn rŵan.
"Mae'r eglwys wedi bod yn bwysig i'r gymuned drwy'r adeg. Mae yng nghanol y dre' felly pan mae 'na ryw weithgaredd yn mynd ymlaen yng Nghaergybi, i fa'ma maen nhw'n dod oherwydd mai hwn ydy'r adeilad mwya' yn y dre'.
"I adnewyddu'r gwaith cerrig, roedd angen £250,000. 'Da ni'n ffodus iawn wedi cael grantiau gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a phobl eraill.
"Roeddan ni angen cyfrannu £12,000 a 'da ni 'di bod yn gwneud pethau fel hel pres tu allan i siopau, 'da ni 'di cael cinio Nadolig ac amryw o gyngherddau. 'Da ni'n dal heb gyrraedd y nod ac yn dal i hel pres i adnewyddu.
"Ond mae'r gwaith yn bwysig oherwydd bod y gwaith cerrig yn dyddio o'r Oeso'dd Canol cynnar. Fasa nid dim ond Caergybi, ond Sir Fôn a Chymru hefyd yn colli gwaith hanesyddol."
Un o nodweddion amlyca'r eglwys ydy'r Ffenestr Ffrwyth Bywyd gan William Morris, yn ogystal â ffenestri eraill gan ei gyfaill, Edward Burne-Jones.
Mae'r ffenestri lliw hyn yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd.
Un sy'n aelod o'r eglwys ers yn blentyn yw warden Bro Cybi, Carys Griffith, a ddywedodd: "Mae'r adeilad yn bendant yn denu ymwelwyr.
"Trwy'r haf mae 'na bobl yn dod o bell i'w weld o. Mae'r llongau mawr sy'n dod i mewn, a mae 'na lot o gorau'n dod yma i ganu i'r ymwelwyr. Mae o yn tynnu pobl yma.
"Y cerrig rownd y ffenestri sydd wedi dechrau pydru. Sandstone ydy o ac hefo'r gwynt a'r glaw 'da ni'n cael yr ochr yma i Gaergybi, mae o'n dechrau effeithio ar y ffenestri.
"Mae'n rhaid i ni gadw 'mlaen hefo'r gwaith yma, dydy o ddim yn hawdd achos mai dim ond criw bach ydan ni. Dyna pam 'da ni wedi apelio ar y gymuned i'n helpu ni wneud y gwaith.
"'Da ni am newid dipyn bach ar y porch hefyd - rhoi drysau gwydr a ffenestri i gadw fwy o wres tu mewn. Ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus efo'r adeilad am bod o mor hen a mor bwysig."
Y gobaith ydy dechrau ar y gwaith atgyweirio yn fuan yn 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018