Ydy hi'n bosib marw o dorcalon?

  • Cyhoeddwyd
torcalon

Diwrnod i ddathlu ydy Diwrnod Sant Ffolant, ond beth yw goblygiadau colli cariad?

Ydy torcalon yn gallu dylanwadu ar iechyd? Ydy hi'n bosib marw, hyd yn oed, o dorcalon?

Mae'r Dr Gethin Ellis yn gardiolegydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg: "Mae yna gyflwr o'r enw takotsubo cardiomyopathy (gair Siapaneaidd sy'n cyfeirio at rwyd neu siâp calon).

"Dydy o ddim yn gyflwr cyffredin o bell ffordd ond mae o wedi cael ei gydnabod ers tua degawd.

"Mae'n cael ei gysylltu gyda phobl sydd o dan straen ofnadwy, ond dydy'r arbenigwyr ddim yn ei ddeall yn iawn er bod lot o ymchwil wedi bod yn y maes.

"Beth sy'n digwydd efo'r cyflwr ydy bod rhywun yn gorymateb i straen nes eu bod yn creu'r holl hormonau 'ma. Mae lefelau yn codi i'r un graddau ag yn ystod trawiad. Mae'n wahanol i drawiad, ond mae'n edrych yn debyg iawn yn ôl yr effaith i'r galon.

"Rhywbeth dros dro ydi takotsubo cardiomyopathy sy'n para efallai am ddiwrnod ac yn achosi poen mawr. Fel arfer mae gan berson dueddiad i gael cyflwr o'r fath beth bynnag, ac mae merched yn fwy tebygol o'i gael na dynion.

"Er yn gyflwr anarferol, mae takotsubo yn digwydd i rywun ifanc sydd fel arfer yn iach. Os ydych chi yn eich 80au neu 90au mae marwolaeth sydyn yn gallu digwydd, ac yn aml oherwydd cyflwr sydd heb ddod i'r amlwg."

Galar

Dyw'r seicolegydd clinigol Dr Mair Edwards o Fangor ddim yn credu bod torcalon yn gallu achosi marwolaeth ond mae hi'n cydnabod y gall y galar gynyddu'r risg o broblemau iechyd.

"Mae pobl sydd dan straen mawr yn llawer mwy tebygol o anhwylderau, ond fel arfer pethau mân fel annwyd. Mae yna effaith seicolegol yn ogystal â ffisiolegol, ond i ddweud ei fod yn achosi marwolaeth? Mae'n anodd iawn dweud hynny."

Ychydig flynyddoedd yn ol bu farw'r actores Carrie Fisher o drawiad ar y galon. Ddiwrnod yn ddiweddarach bu farw ei mam, yr actores Debbie Reynolds o strôc, ac yn ôl ei mab roedd y straen o golli ei merch wedi bod yn ormod iddi.

Disgrifiad o’r llun,

Debbie Reynolds (ar y chwith) gyda'i merch Carrie Fisher. Bu farw y ddwy o fewn diwrnod i'w gilydd yn Rhagfyr 2016

"Mae'r galar o golli plentyn yn sicr yn cael effaith ffisiolegol ar bobl," meddai Dr Mair Edwards. "Be' olygai hyn yw mai nid dim ond galar emosiynol ydy o, ond bod o hefyd yn cael effaith o roi y corff dan straen.

"Mae cysylltiad agos rhwng y meddwl a'r corff - dydy'r ddau beth ddim yn byw ar wahân, ac os oes gwendid yn barod fe all arwain at mwy o broblemau na'r disgwyl."

Mae yna engreifftiau o gyplau priod yn marw o fewn dyddiau i'w gilydd, ond mae Dr Gethin Ellis yn credu mai rhywbeth i'w wneud gydag oedran yw hyn:

"Os yw cwpl yn briod ers dros hanner canrif, a bod un yn marw, mae enghreifftiau lle mae'r llall yn marw ddiwrnodau yn ddiweddarach... ond yr 'hanner canrif' ydy'r giveaway- dydi o ddim yn digwydd i gyplau yn eu 20au a 30au.

"Wedi marwolaeth ar ôl hanner canrif yn briod mae rhaid cydnabod bod y cwpl yna yn hen, dan bwysau, ac mae'r emosiynau ac iselder wedi ei gysylltu efo pwysedd gwaed ac os ydy'r pwysedd gwaed yn codi mae mwy o siawns o gael strôc neu drawiad ar y galon.

"Mae'n gysylltiad anuniongyrchol weithiau ond mae straen mawr yn gallu cael effaith ar berson, ac os ychwanegwch chi ffactorau fel oed, pwysedd gwaed a churiad calon, mae mwy o siawns o rywbeth i fynd o'i le.

"Hefyd, pan mae person mewn oed yn colli cymar wedi degawdau efo'i gilydd, weithiau maen nhw'n stopio cymryd gofal o'u hunain, stopio cymryd eu tabledi a stopio bwyta ac yfed."

Disgrifiad o’r llun,

Gall colli cymar oes achosi problemau iechyd mawr yn ôl Dr Gethin Ellis

Cyhoeddwyd yr erthygl yma gyntaf yn 2017.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw