Deg o gariadon chwedlonol Cymru

  • Cyhoeddwyd
cwpl yn y machludFfynhonnell y llun, Pixabay

I ddathlu dydd Santes Dwynwen, ein nawddsant cariadon, dyma i chi restr o rai o gariadon enwog Cymru.

Yn debyg i stori drist Dwynwen ei hun dydi trasiedi byth yn bell yn ein straeon serch enwocaf...

Ann Thomas a Wil Hopcyn

Ffynhonnell y llun, Pixabay

Mae stori Ann, y ferch o Gefn Ydfa, a'i chariad at Wil, y bardd tlawd, wedi ei hanfarwoli yn y gân hiraethus Bugeilio'r Gwenith Gwyn.

Ann Thomas oedd unig ferch teulu cefnog Cefn Ydfa yn Llangynnwr, Bro Morgannwg, a'i theulu wedi trefnu iddi briodi eu cymydog cyfoethog, Anthony Maddocks. Ond roedd hi mewn cariad efo'r töwr a'r bardd gwlad Wil Hopcyn. Cafodd ei chloi yn ei hystafell a'i gwahardd rhag gweld Wil a'i gorfodi i briodi Maddocks.

Aeth yn sâl o dor-calon ar ôl priodi ac ar ei gwely angau, gofynnodd Ann am Wil. Am unwaith, gadawodd ei mam iddi ei weld, ond roedd yn rhy hwyr, a bu farw Ann yn 23 oed.

Blodeuwedd a Gronw Pebr

Ffynhonnell y llun, Jemima Lee
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Blodeuwedd ei throi'n dylluan a Gronw ei ladd am geisio lladd Lleu Llaw Gyffes yn enw cariad

Dyma'r ferch o flodau yn chwedlau'r Mabinogi gafodd ei chreu gan y dewin Gwydion i fod yn wraig hardd ac ufudd i'w nai, Lleu Llaw Gyffes, sy'n treulio ei amser oddi cartref ond yn disgwyl iddi hi fod yno iddo bob amser i'w garu.

Ond roedd gan Blodeuwedd deimladau ac fe syrthiodd hi a Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn, dros eu pen â'u clustiau mewn cariad â'i gilydd, gan ddatod cynlluniau twt, hunanol, yr hen ddyn.

Wrth gwrs, fedrwn ni ddim gweld Blodeuwedd a Gronw fel role models achos roedden nhw'n droseddwyr wnaeth gynllwynio i ladd Lleu a chael eu cosbi am hynny. Ac eto mae yma wers oesol am gariad yn y stori hon...

George a Sandra

Ffynhonnell y llun, S4C

Fel Romeo a Juliet, George ydy'r hogyn o 'ochr anghywir y tracs' sydd ddim digon da i Sandra Picton, merch annwyl a hwyliog teyrn y tim pêl-droed lleol, Arthur Picton, yn y gyfres gomedi C'mon Midffîld.

Er i'w thad drio ei orau i wahardd unrhyw berthynas rhyngddyn nhw mae cariad y ddau fel y dur, mae'n nhw'n deall ei gilydd i'r dim ac yn gwirioni ar ei gilydd er gwaetha'r anawsterau teuluol. Lyfli.

Tony ac Aloma

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Aloma, "mêts" oedd hi a Tony, ond "tasa fo isio mraich dde i mi fasa fo'n ei chael hi..." meddai

Ers pan ganodd Tony "Mae gen i gariad...", ac atebodd Aloma, "a fi di honno...", mae llawer wedi credu bod "y ddau benfelyn o Fôn" oedd yn canu efo'i gilydd yn yr 1960au yn gariadon.

Er eu bod nhw wedi dweud droeon nad oedden nhw'n gwpl, maen nhw'n dal i ffitio'r ddelwedd ramantus oedd gan bawb ohonyn nhw.

Yn 2011 fe wnaeth Plant Bach Annifyr eu hanfarwoli eto mewn cân gyda'r gytgan dorcalonnus: "Dwi'm isho bod fel Tony ac Aloma, caru'n gilydd ond jyst fel ffrindiau..."

Eleanor Butler a Sarah Ponsonby

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Portread o Ferched Llangollen, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby

Dyma ddwy a heriodd gonfensiwn eu dydd er mwyn bod yn gymar oes i'w gilydd a chyd-fyw am 50 mlynedd ym Mhlas Newydd, Llangollen.

Cyfansoddodd Wordsworth soned i'r cwpl sy'n cael eu galw'n Ferched Llangollen, gan ddisgrifio eu cartref, oedd yn croesawu llenorion ac ysgolheigion, fel "Glyn Cyfeillgarwch" lle caiff "cariad chwiorydd sydd mewn cariad ddringo'n uwch na gafael amser."

Does dim tystiolaeth fod eu perthynas yn un rhywiol mewn oes lle nad oedd perthynas rhwng dau neu ddwy o'r un rhyw yn cael ei dderbyn, ond mae'n cael ei ddisgrifio fel un rhamantaidd blatonaidd.

Richard Burton ac Elizabeth Taylor

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cyfarfod ar set y ffilm Cleopatra, Burton a Taylor oedd un o gyplau enwoca'r byd ar un cyfnod

Iawn, nid Cymraes oedd Elizabeth Taylor ond roedd ei charwriaeth efo'r actor o Gymru, Richard Burton, yn chwedlonol. Yn ôl nith Burton, Sian Owen, hi oedd yr unig un o'i wragedd i aros yn ei gartref mewn tŷ teras bach ym Mhontyrhydyfen.

Er ei henwogrwydd a'i harian roedd hi'n gysurus iawn yn y cartref Cymreig yn y Cymoedd ac yn mynnu golchi'r llestri. Priododd y ddau ddwywaith ac er bod alcohol yn broblem yn y berthynas gythryblus, doedd dim gwadu'r atyniad cryf rhwng y ddau hyd eu marwolaeth.

Osian a Nia Ben Aur

Ffynhonnell y llun, Sain

Mae cariad yn gallu teimlo fel byw mewn bybl lle nad ydi amser a phobl eraill yn bodoli a dyna'n union oedd profiad Osian, tywysog Erin yn y chwedl, pan adawodd ei ffrindiau, ei wlad a'i etifeddiaeth er mwyn merch ei freuddwydion, Nia Ben Aur o Tír na nÓg.

Cafodd Osian amser gwych ym myd ffantasi Tír na nÓg gyda Nia, ond wnaeth o ddim sylwi bod canrifoedd wedi pasio tra roedd yno. Gorffennodd y ffantasi mewn trasiedi pan geisiodd fynd nôl i'w hen wlad a sylweddoli nad oedd yno mwyach, a'i fod mewn gwirionedd wedi heneiddio 300 mlynedd. Bu farw Osian yn hen ŵr wedi colli popeth - ond o leiaf roedd wedi cael profi cariad tanbaid gyda Nia.

Dylan a Caitlin Thomas

Ffynhonnell y llun, Pablo Star Limited (Iwerddon)

Gyda pherthynas wedi ei seilio ar alcohol ac anffyddlondeb, efallai nad y bardd o Abertawe a'r ddawnswraig Caitlin Mcnamara yw'r enghreifftiau gorau o berthynas iach, gariadus. Ond mae pobl yn dal i ramantu am eu bywyd bohemaidd a'r syniad o'r dynfa anochel at ei gilydd a'r angerdd dinistriol oedd rhyngddyn nhw. Hyd at chwe mis cyn ei farwolaeth yn 39 oed yn Efrog Newydd roedd Dylan yn dal i ysgrifennu llythyron cariad at Caitlin.

Er iddi hi ailgydio yn ei bywyd a phriodi eto gydag Eidalwr, mae wedi ei chladdu nôl yng Nghymru gyda Dylan Thomas, a chwedloniaeth eu perthynas yn dal i fod yn destun ffilmiau a llyfrau.

Macsen Wledig ac Elen Luyddog

Ffynhonnell y llun, Jemima Lee

Croesodd Macsen Wledig gyfandir er mwyn dod o hyd i Elen, merch ei freuddwydion. Roedd Macsen - yr arwr Magnus Maximus yng nghân enwog Dafydd Iwan, Yma o Hyd - yn Ymerawdwr Rhufeinig.

Un diwrnod cafodd freuddwyd am ferch hardd mewn caer yn bell i ffwrdd a theithiodd o'r Eidal ar draws Ewrop er mwyn dod o hyd iddi. Elen Luyddog, merch arglwydd Arfon, oedd hi ac fe ddaeth o hyd iddi yng Nghaer Saint yn Arfon a phriododd y ddau.

Dyna'r chwedl, ond mae'n debyg fod Macsen ac Elen yn ŵr a gwraig go iawn a Sant Peblig ac Owain fab Macsen Wledig yn feibion iddyn nhw.

Dafydd ap Gwilym a Morfudd... a Dyddgu... ac ambell un arall

Cariad a serch oedd un o brif bynciau barddoni Dafydd ap Gwilym, sy'n cael ei ystyried yn feistr ac arloeswr ar ei grefft drwy Ewrop gyfan yn y canol oesoedd. Yn wahanol i feirdd o'i flaen, doedd dim ofn ganddo ganu am ei deimladau ei hun a'i fethiannau a'i ddyheadau personol.

Roedd mewn cariad gyda'r syniad o syrthio mewn cariad ond roedd 'na ambell ferch yn fwy arbennig na'i gilydd; yn bennaf Morfudd, yr ysgrifennodd y gerdd Morfudd fel yr Haul iddi, a hefyd Dyddgu. Yn anffodus, roedd gan y ddwy ŵr... ond doedd hynny ddim yn stopio Dafydd ap Gwilym rhag dangos ei deimladau.

Eich cynigion chi

Ac mae na lawer mwy! Diolch i gynulleidfa serchus Cymru Fyw, rydyn ni wedi cael sawl enw arall i'n rhestr o gariadon Cymreig:

  • Jabas a Pegi a Ruth a Picsi o'r gyfres deledu Jabas; a Mrs Mac a Glan o Pobol y Cwm - Meinir Ann Thomas

  • Ken a Kay Cabs o Rownd a Rownd - Eirlys Wyn Jones

  • Vera a Jim Jêms - Annwen Hughes

  • Culhwch ac Olwen, chwedl o'r oesoedd canol - Nia Mair

  • Jac y Jwc a Jini o gyfres Sali Mali - Branwen Gwyn

  • Pwyll a Rhiannon o'r Mabinogi; a Siwan (gwraig Llywelyn Fawr) a'i chariad Gwilym Brewys - Catrin Elis Williams

  • Trystan ac Esyllt, chwedl arall o'r canol oesoedd - Eirlys Wyn Jones

  • Hywel a Blodwen yn y gân enwog a Solomon a Gaenor yn y ffilm - Menai Morgans

  • Rhys a Meinir o'r chwedl am Nant Gwrtheyrn - Mary Lintott

  • Gavin a Stacey - Carwen Hughes-Jones

  • Siôn Blewyn Coch a Siân Slei Bach, y llwynogod yn Llyfr Mawr y Plant- Eurgain Haf

Hefyd o ddiddordeb: