Cwest sepsis: Esgeulustod wedi 'cyfrannu'n sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Lewys CrawfordFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lewys Crawford ddiwrnod ar ôl cael ei gymryd i'r adran frys

Mae rheithgor mewn cwest wedi dod i'r casgliad fod methiant meddygon i roi gwrthfiotig i fachgen tri mis oed wedi "cyfrannu'n sylweddol" tuag at ei farwolaeth mewn ysbyty yng Nghaerdydd.

Bu farw Lewys Crawford, o Gaerdydd, o septisemia meningococaidd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2019.

Clywodd y cwest fod meddygon heb sylweddoli fod ganddo sepsis, a methu rhoi cyffuriau iddo ar y cyfle cyntaf.

Daeth y rheithgor i'r casgliad fod Lewys wedi marw o ganlyniad i "achosion naturiol gydag esgeulustod yn gyfraniad" at ei farwolaeth.

Fe ddylai Lewys fod wedi derbyn cyffuriau gwrthfiotig o fewn awr iddo gael archwiliad meddygol, ond roedd oedi am nifer o oriau cyn iddo gael y cyffuriau.

Sepsis

Roedd nifer o gyfleoedd wedi eu methu yn y broses o roi cyffuriau gwrthfiotig i'r bachgen. Roedd nyrsys wedi amau'n syth fod sepsis arno, ond nid oedd meddygon wedi dod i'r un casgliad.

Clywodd y cwest fod "cyfleoedd niferus" wedi eu methu yng ngofal Lewys Crawford cyn 23:30 ar 21 Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Rhieni Lewys, Aidan Crawford a Kirsty Link

Dywedodd llefarydd ar ran yn rheithgor fod "methiant i drin Lewys gyda gwrth-fiotigau" ac roedd "hyn wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at farwolaeth Lewys".

Ychwanegodd fod "methiant difrifol hyd at ac yn cynnwys 23:30 ar 21 Mawrth".

Fe nododd y rheithgor ddyfarniad o "farwolaeth o achosion naturiol gydag esgeulustod yn gyfraniad".

Dywedodd y Crwner Graeme Hughes nad oedd methiannau systemig yn yr ysbyty.

Ymateb y bwrdd iechyd

Yn dilyn y cwest, dywedodd Ruth Walker o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Mae'n ddrwg gennym am y methiannau yng ngofal Lewys. Mae hwn yn achos hynod o drist ac mae pawb yn y bwrdd iechyd yn cydymdeimlo gyda'i deulu.

"Rydym wedi cynnal ymchwiliad mewnol i'r gofal a'r driniaeth y derbyniodd ac fe gafodd adroddiad yr ymchwiliad ei ddarparu i swyddfa'r crwner.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda swyddfa'r crwner a gweithredu'r argymhellion. Rydym wedi dechrau gosod rhai o'r camau angenrheidiol mewn lle i fynd i'r afael a'r gwelliannau ddaeth i'r golwg yn ein hymchwiliad mewnol".