Dim camau pellach yn dilyn marwolaeth dyn, 66, y llynedd

  • Cyhoeddwyd
Wayne PughFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Wayne Pugh y llynedd eu bod "wedi ein tristau gyda'r golled sydyn"

Ni fydd Heddlu De Cymru yn cymryd camau pellach yn dilyn marwolaeth dyn yn ardal Castell-nedd y llynedd.

Cafodd corff Wayne Pugh, 66, ei ganfod mewn tŷ ar Heol Talbot yng Nghimla ar 2 Hydref.

Ni fydd dyn 55 oed gafodd ei arestio ar y pryd ac yna'i ryddhau dan ymchwiliad, yn wynebu unrhyw gyhuddiadau.

Dywedodd yr heddlu nad ydy marwolaeth Mr Pugh bellach yn cael ei drin fel un amheus yn dilyn "ymchwiliadau helaeth".

Mae teulu Mr Pugh a theulu'r dyn 55 oed wedi cal gwybod am y datblygiadau.