Cymru i herio'r Iseldiroedd yn Rotterdam cyn Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Cymru v IseldiroeddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y ddwy wlad herio ei gilydd ddiwethaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2015

Bydd Cymru yn herio'r Iseldiroedd yn Rotterdam yn eu gêm olaf fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Euro 2020.

Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal ar 6 Mehefin - wythnos union cyn gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn y Swistir.

Bydd y gic gyntaf yn stadiwm De Kuip am 18:30 amser Cymru.

Fe wnaeth y ddwy wlad herio ei gilydd ddiwethaf mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd 2015, gyda'r Iseldiroedd yn fuddugol o 3-2 bryd hynny.

Y disgwyl yw y bydd y garfan yn teithio yn syth o'r Iseldiroedd i Baku, ble byddan nhw'n chwarae'r Swistir a Thwrci.

Fe fyddan nhw wedyn yn teithio i Rufain i herio'r Eidal yn y gêm olaf yn y grŵp.

Mae Cymru eisoes wedi cyhoeddi dwy gêm gyfeillgar arall fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Euro 2020 - yn erbyn Awstria yn Abertawe ar 27 Mawrth a'r Unol Daleithiau yng Nghaerdydd ar 30 Mawrth.