Gwerthu adeilad hen ysgol Gymraeg yn Abertawe mewn ocsiwn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg Felindre

Mae hen adeilad ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe - fu'n destun gwrthwynebiad pan gafodd ei chau - wedi cael ei werthu mewn ocsiwn yn Llundain.

Gwerthwyd Ysgol Felindre am £150,000 yn yr arwerthiant ddydd Llun i brynwr anhysbys.

Daeth hynny er gwaethaf cynnig gan ddyn busnes lleol, Bryan Davies, i'w phrynu am £150,000, oedd yn cynnwys cyfraniad o £12,500 gan bobl leol.

Gwrthododd y cyngor y cynllun, gan ddweud mai'r ffordd fwyaf tryloyw o gael y gwerth gorau am arian oedd gwerthu'r adeilad mewn ocsiwn.

Canolfan gymunedol

Cafodd yr ysgol ei chau yn Awst 2019 fel rhan o gynlluniau'r cyngor i ad-drefnu addysg Gymraeg yn yr ardal.

Ond roedd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, ymhlith y rheiny wnaeth gyhuddo'r cyngor o dorri safonau iaith yn ystod y broses o'i chau.

Roedd Mr Davies wedi dweud ei fod yn bwriadu creu canolfan addysg breifat yn yr adeilad petai'n llwyddo i'w brynu.

Byddai hynny wedi cynnwys clybiau cyn ac ar ôl ysgol, a darpariaeth addysg ar gyfer plant ac oedolion.

Dywedodd Mr Davies, sy'n berchen ar dafarn The Shepherd's Inn yn Felindre ei fod wedi rhoi cynnig o £148,000 cyn yr arwerthiant, ond honnodd bod y pris wrth gefn wedi cael ei godi i £150,000 ar y diwrnod.

Ychwanegodd mai £149,000 oedd y cynnig uchaf yn yr arwerthiant, ond bod yr ysgol wedi cael ei gwerthu yn dilyn trafodaethau rhwng yr arwerthwyr a'r cynigiwr.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe y gallai Mr Davies fod wedi prynu'r ysgol gyda chynnig o £150,000 ar y diwrnod, gan wadu bod y pris wrth gefn wedi ei newid.

"Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau'r gwerth gorau i'r trethdalwyr a'r ffordd fwyaf tryloyw o wneud hynny oedd marchnata eiddo fel hyn drwy arwerthiant," meddai'r llefarydd.

"Rhoddwyd digon o rybudd ymlaen llaw i Mr Davies am yr arwerthiant, a dymunwyd yn dda iddo."

Dywedodd Bryan Davies mai dymuniad y gymuned oedd creu'r ganolfan addysg, ac y byddai gwrthwynebiad chwyrn i unrhyw gynlluniau i ailddatblygu'r safle.

"Fe fydd gwrthwynebiad anferthol yn y pentref," meddai.