Pum newid i dîm rygbi merched Cymru i herio Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tîm eu trechu 31-12 yn Nulyn y penwythnos diwethaf

Mae tîm rygbi merched Cymru wedi gwneud pum newid o'r tîm gafodd ei drechu yn Iwerddon i herio Ffrainc y penwythnos hwn.

Bydd y canolwr Megan Webb a'r asgellwr Caitlin Lewis yn chwarae am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, tra bod Kayleigh Powell yn ôl yn y tîm ar ôl colli'r gêm yn Nulyn gydag anaf.

Fe fydd y clo Georgia Evans yn dechrau ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, ac mae Bethan Lewis hefyd yn dychwelyd yn y rheng ôl.

Mae tîm y merched yn parhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni, wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Yr Eidal ac Iwerddon.

Bydd merched Cymru'n herio Ffrainc ym Mharc yr Arfau am 12:00 ddydd Sul.

Tîm merched Cymru i herio Ffrainc

Kayleigh Powell; Caitlin Lewis, Megan Webb, Kerin Lake, Lisa Neumann; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Cerys Hale, Georgia Evans, Gwen Crabb, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap (capt).

Eilyddion: Molly Kelly, Cara Hope, Ruth Lewis, Robyn Lock, Manon Johnes, Ffion Lewis, Courtney Keight, Lauren Smyth.