Ymchwiliad: Gormod yn aros mewn ysbyty yn rhy hir

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans yn ciwio ym Mronglais

Mae gormod o bobl yn aros mewn ysbyty pan fydden nhw'n medru gadael, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal (OWDG) yn digwydd pan mae claf mewn ysbyty yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu gofal, ond sy'n cael eu hatal rhag gwneud hynny am nifer o resymau.

Yn ôl yr ystadegau mae'r nifer yma'n amrywio o fis i fis, ond mae'n parhau yn gyson dros 400 bob mis.

Oherwydd eu pryderon am hyn mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wedi lansio ymchwiliad i'r broses.

Pan nad yw pobl yn gadael ysbytai yn brydlon, medd y pwyllgor, mae'r system iechyd i gyd yn gweld oedi, ac mae'n anoddach derbyn cleifion newydd am driniaeth.

Y rheswm mwyaf cyffredin am OWDG yw prinder gofal yn y gymuned a chael llefydd mewn cartrefi gofal.

'Colli hyder ac annibyniaeth'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Dr Dai Lloyd AC: "Ry'n ni'n gwybod fod oedi cyn i bobl adael yr ysbyty yn cael effaith niweidiol ar ysbytai a chleifion.

"Mae'r pwyllgor yn ceisio deall mwy am faint y broblem a'r rhesymau am OWDG yn enwedig lle mae'r broblem ar ei gwaethaf a'r effaith ar gleifion, gofalwyr, teuluoedd a gwasanaethau."

Ychwanegodd Victoria Lloyd, prif weithredwr Age Cymru: "Mae oedi cyn medru gadael ysbyty ar ôl triniaeth yn gallu cael effaith sylweddol ar ein lles corfforol a meddyliol.

"I lawer mae'n gallu arwain at golli hyder ac annibyniaeth.

"Mae Age Cymru'n falch bod y pwyllgor wedi dechrau ymchwiliad i'r broses. Byddwn yn annog pobl gyda phrofiad o hyn i rannu eu straeon gyda'r pwyllgor er mwyn eu cynorthwyo i lunio argymhellion sy'n sicrhau fod y system yn gwella i'r dyfodol."