Dros 1,000 yn aros am lawdriniaeth arbenigol yn Nhreforys

  • Cyhoeddwyd
Trisha Adams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trish Adams wedi bod yn aros bron i 18 mis am lawdriniaeth ar ei chlun

Mae dros 1,000 o gleifion wedi bod yn aros dros flwyddyn am lawdriniaethau arbenigol yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Cafwyd cynnydd yn y nifer yn rhannol oherwydd bod un ward wedi cael ei chlustnodi ar gyfer "lefelau uchel iawn" o achosion brys.

Dywedodd un claf sydd wedi bod yn aros bron i 18 mis am glun newydd ei bod wedi cyrraedd "pen fy nhennyn".

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod yn "cydnabod y gallai hyn fod yn anodd i'n cleifion ac yn ymddiheuro i'r rheiny sydd wedi wynebu oedi".

Symud i ysbytai eraill

Erbyn diwedd Medi roedd 1,768 o gleifion orthopedig ac asgwrn cefn wedi bod yn aros yn hirach na'r targed o 36 wythnos.

O'r rheiny roedd 741 wedi bod yn aros dros 52 wythnos - gyda chyfanswm o 1,000 yn aros dros flwyddyn ar draws pob arbenigedd.

Mae'r bwrdd iechyd nawr yn bwriadu lleihau'r nifer drwy drosglwyddo cannoedd o achosion i ardaloedd eraill yn ne Cymru, ac i ysbytai preifat arbenigol.

Ar draws Cymru mae tua 6,400 o gleifion yn aros yn hirach na'r targed, ond mae'r nifer hwnnw wedi gostwng o'r lefelau gwaethaf ddwy flynedd yn ôl, pan oedd dros 10,000 o gleifion wedi bod ar restr aros am dros naw mis.

Fodd bynnag, mae'r niferoedd ym Mae Abertawe wedi bod yn cynyddu ar ôl i Dreforys ail-glustnodi ward oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer cleifion orthopedig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trish yn dweud nad yw hi'n gallu helpu'i gŵr Paul a gwaith atgyweirio ar y tŷ oherwydd ei chyflwr

Roedd Trish Adams, 55, sy'n byw ger Llangadog yn Sir Gaerfyrddin yn gwybod y byddai angen clun newydd arni ar ryw adeg.

Pan ddechreuodd gael poenau aeth i weld arbenigwr yng Nghaerfyrddin ym mis Chwefror 2017 a ddywedodd wrthi fod angen llawdriniaeth arni o fewn chwe mis.

Cafodd ail asesiad gan arbenigwr arall yn Ysbyty Treforys, ond 76 wythnos yn ddiweddarach mae di dal yn aros am y driniaeth.

Poen 24 awr y dydd

"Mae'r boen yna 24 awr y dydd, dim ots faint o gyffuriau dwi'n cymryd," meddai.

"Dwi'n berson eitha' cryf ond dwi'n teimlo fel bod hyn yn dechrau cael y gorau ohona i. Dwi ar ben fy nhennyn gyda beth i'w wneud nesaf."

Llwyddodd i gyfarfod gyda rheolwyr yr ysbyty, ac fe wnaethon nhw addo ceisio cael llawdriniaeth iddi erbyn mis Gorffennaf fan hwyraf - ond dydy hynny dal heb ddigwydd.

Ychwanegodd ei bod hi wedi "synnu'n llwyr" pan gafodd hi wybod wedyn bod y ward orthopedig wedi cau am gyfnod, a bod yr ysbyty heb gysylltu gyda hi i roi gwybod.

"Mae 'na bobl dwi 'di cyfarfod sy'n gweithio yn yr ysbyty - staff a llawfeddygon sydd hefyd yn anhapus am nad ydyn nhw'n gallu gwneud y gwaith maen nhw eisiau ei wneud."

'Gwneud popeth y gallwn'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod wedi cynnal 1,200 o lawdriniaethau orthopedig dewisol eleni yn eu tri ysbyty, gan gynnwys 338 yn Nhreforys.

Ond doedd dim modd darparu gwasanaeth orthopedig penodol yn y ward oedd wedi cau, medden nhw, oherwydd y nifer "uchel iawn" o achosion brys a ffactorau eraill.

"Mae hyn wir wedi effeithio ar ein gallu i gynnig gwasanaethau orthopedig dewisol yn fanno," meddai'r prif swyddog gweithredu, Chris White.

"Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i ddarparu'r gwasanaeth hwn yn Nhreforys cyn gynted â phosib, ac rydym yn ymddiheuro i'r cleifion sydd wedi wynebu oedi."