Mwy o gleifion nag erioed mewn unedau brys am dros 12 awr

  • Cyhoeddwyd
Uned gofal brys yng NghymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y cleifion sydd wedi treulio mwy na 12 awr mewn unedau gofal brys yng Nghymru wedi codi i'r nifer uchaf erioed.

Roedd 6,882 o gleifion yn y sefyllfa yma yn ôl y ffigyrau diweddaraf fis diwethaf - 226 yn fwy nag ym mis Rhagfyr.

Y targed yw na ddylai unrhyw glaf orfod aros am gyfnod mor hir â hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod "gormod o bobl yn treulio amser hir mewn unedau gofal brys tra'n aros am wely".

Ond dywedodd llefarydd bod disgwyl i'r £40m o arian ychwanegol "wneud gwahaniaeth".

Roedd yna welliant yn y nifer oedd yn gorfod aros llai na phedair awr i gael triniaeth, eu trosglwyddo i rywle arall neu cafodd ganiatâd i adael yr ysbyty - 74.6% o'i gymharu â 72.1% ym mis Rhagfyr.

Ond dyw'r targed 95% dal ddim yn cael ei gyrraedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwelliant wedi bod yn nifer yr ambiwlansys wnaeth ymateb o fewn wyth munud i alwadau 'coch'

Gwelwyd gwelliant hefyd yn amseroedd ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans.

Fe wnaeth ambiwlans gyrraedd 66% o alwadau "coch" o fewn wyth munud - sef galwadau ble mae perygl i fywyd - a hynny am y tro cyntaf ers mis Hydref.

Mae'r llywodraeth yn dweud ei bod wedi ei "calonogi" bod llai o bobl yn gorfod disgwyl i gael eu trosglwyddo i rywle arall am olaf.

Dywed y llefarydd bod y gwelliannau wedi digwydd mewn cyfnod o "bwysau eithriadol. Fis diwethaf oedd yr ail fis Ionawr mwyaf prysur erioed i'n hunedau gofal brys."

Ychwanegodd y llywodraeth bod amseroedd aros ar gyfer "gofal sydd wedi ei gynllunio wedi ei effeithio yn fawr gan ddoctoriaid yn lleihau eu horiau oherwydd newidiadau i reolau trethi HMRC gan Lywodraeth Prydain".

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi galw ar y llywodraeth i daclo'r mater "ar frys".