'Profiad yn allweddol' i Gymru yn erbyn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Wayne PivacFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

"Allwch chi ddim curo profiad," yn ôl Wayne Pivac

Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac yn gobeithio y bydd profiad yn allweddol wrth i'w dîm herio Ffrainc yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Mae gan y 15 chwaraewr sy'n dechrau i Gymru gyfanswm o 859 cap rhyngddynt - y mwyaf gan unrhyw wlad yn hanes y gystadleuaeth.

Dim ond 234 cap sydd gan y Ffrancwyr, wrth i'w tîm ifanc geisio parhau yn eu hymgyrch i ennill y Gamp Lawn.

Un enghraifft sy'n dangos y gwahaniaeth yw Alun Wyn Jones, sydd wedi ennill 136 o gapiau rhyngwladol - 35 cap yn fwy na sydd gan yr wyth o flaenwyr Ffrainc rhyngddynt.

Bydd y gic gyntaf am 16:45 yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

'Allwch chi ddim curo profiad'

"Rwy'n credu mewn gemau tynn, pan ydych chi dan bwysau, allwch chi ddim curo profiad," meddai Pivac.

"Mae gennym ni chwaraewyr yma sydd wedi bod yn rhan o'r gemau tynn hynny dros y blynyddoedd, ac sydd wedi bod ar ochr gywir y canlyniad.

"Rydyn ni'n falch iawn o gael y profiad hynny yn y tîm."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Alun Wyn Jones 35 cap yn fwy na sydd gan yr wyth o flaenwyr Ffrainc rhyngddynt

Er y profiad helaeth sydd gan y Cymry, dechrau cymysg mae'r tîm wedi'i gael i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe lwyddon nhw i drechu'r Eidal 42-0 yn eu gêm agoriadol, cyn cael eu trechu gan Iwerddon 24-14 yn Nulyn.

Ond mae'r Ffrancwyr wedi cael dechrau addawol iawn i'r bencampwriaeth, gan drechu Lloegr a'r Eidal.

Mae Cymru wedi gwneud dau newid i'r tîm gafodd eu trechu bythefnos yn ôl gyda Gareth Davies a Ross Moriarty yn dechrau a Tomos Williams ac Aaron Wainwright yn colli eu lle.

Mae'n debygol y bydd clo y Wasps, Will Rowlands yn ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc hefyd.

Edwards yn ôl yng Nghaerdydd

Mae ffrae wedi dechrau eisoes rhwng y ddau dîm, gyda phrop Cymru, Wyn Jones yn dweud ei fod yn disgwyl i'r Ffrancwyr "dwyllo" yn y sgrym ddydd Sadwrn.

Gwadu hynny wnaeth prif hyfforddwr Ffrainc, Fabien Galthie, a chyhuddo Cymru o ddangos "diffyg parch" i'w dîm.

Mae elfen arall i'r gêm hefyd, gyda Chymru'n herio eu hamddiffynnwr amddiffyn am 12 mlynedd, Shaun Edwards - sydd bellach yn gwneud yr un rôl i Ffrainc.

Fe wnaeth Edwards adael Cymru ar yr un pryd â Warren Gatland a Robin McBryde ar ddiwedd Cwpan Rygbi'r Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gareth Davies yn dechrau ddydd Sadwrn ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn erbyn y Gwyddelod

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Ross Moriarty, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Leon Brown, Will Rowlands, Aaron Wainwright, Tomos Williams, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.

Tîm Ffrainc

Anthony Bouthier; Teddy Thomas, Virimi Vakatawa, Arthur Vincent, Gael Fickou; Romain Ntamack, Antoine Dupont; Cyril Baille, Julien Marchand, Mohamed Haouas, Bernard Le Roux, Paul Willemse, Francois Cros, Charles Ollivon (capt), Gregory Alldritt.

Eilyddion: Camille Chat, Jean-Baptiste Gros, Demba Bamba, Romain Taofifenua, Dylan Cretin, Baptiste Serin, Mathieu Jalibert, Thomas Ramos.

Amserlen y gemau

Sadwrn 1 Chwefror, 14:15 - Cymru 42-0 Yr Eidal

Sadwrn 8 Chwefror, 14:15 - Iwerddon 24-14 Cymru

Sadwrn 22 Chwefror, 16:45 - Cymru v Ffrainc

Sadwrn 7 Mawrth, 16:45 - Lloegr v Cymru

Sadwrn 14 Mawrth, 14:15 - Cymru v Yr Alban