Cynnydd mwyaf yn nifer y teithwyr trên mewn 11 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Trên yng ngorsaf Cyffordd LlandudnoFfynhonnell y llun, TfW

Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru wedi gweld y twf mwyaf mewn dros ddegawd.

Roedd yna dros 57.4 miliwn o deithiau yng Nghymru yn 2018-19 - 9.4% yn uwch na'r 52.5 miliwn yn y 12 mis blaenorol, a'r cynnydd mwyaf ers 2007-08.

Roedd rhan fawr o'r twf yn yr ardal o amgylch Caerdydd, gan gynnwys cynnydd mawr yng ngorsafoedd y maestrefi a'r cymoedd.

Roedd gorsafoedd Abertawe, Bangor a'r Rhyl ymhlith yr 20 prysuraf, ond roedd twf y rheiny'n fach o'i gymharu â'r de-ddwyrain.

Llywodraeth Cymru sy'n cyhoeddi'r ffigyrau, sy'n mesur nifer y bobl sy'n cyrraedd a gadael gorsafoedd rheilffordd.

Ffynhonnell y llun, Seth Whales
Disgrifiad o’r llun,

Gorsaf Caerdydd Canolog yw'r prysuraf trwy Gymru, ond gorsafoedd amgylch y ddinas welodd y twf mwyaf yn nifer y defnyddwyr

Gorsaf Caerdydd Canolog oedd yn un prysuraf yng Nghymru rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019, gafodd ei ddefnyddio 14,204,684 o weithiau - dros 1.2 miliwn yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.

Ond roedd y twf mwyaf yn y gorsafoedd o amgylch y brifddinas.

O'r 10 gorsaf a welodd y cynnydd mwyaf, roedd saith o fewn sir Caerdydd, a'r gweddill ar leiniau sy'n mynd i'r ddinas.

Ond roedd y darlun yn fwy cymedrol mewn mannau eraill:

  • Gwelodd Abertawe, sy'n bedwaredd yn nhabl gorsafoedd mwyaf prysur Cymru, dwf o 2.1%, i 2.2 miliwn o deithwyr;

  • Roedd yna ostyngiad o 0.2% yng ngorsaf Llanelli a 7.8% yng Nghaerfyrddin;

  • Yn y canolbarth, roedd yna ostyngiad ar y cyfan o 4.6% yn nifer teithwyr ar Lein Arfordir y Cambrian, a gostyngiad o 7.6% yn nifer defnyddwyr gorsaf Aberystwyth, sef 309,816;

  • Roedd gorsafoedd prysuraf y gogledd, Bangor a Rhyl, yn 15fed a 19eg yn eu tro. Roedd yna dwf o 0.8% ym Mangor a gostyngiad o drwch blewyn yn Y Rhyl;

  • Roedd yna gynnydd o 2.2% ar Linell Arfordir Gogledd Cymru, 2.6% yn fwy o deithwyr ar Linell Dyffryn Conwy a 3.8% o dwf ar Linell Y Gororau.

Disgrifiad o’r llun,

Teithwyr yn aros am drên ar blatfform gorsaf Stryd y Frenhines, Caerdydd

Yn ôl Steve Fletcher, sylfaenydd tudalen Facebook Arriva Trains Failed Wales, dydy gwasanaethau trên "ddim yn gwella".

Mae'n honni bod y sefyllfa wedi bod yn "ofnadwy" yn y misoedd diwethaf.

"Mae'n fy synnu bod pobl yn parhau i'w ddefnyddio. Rydych chi'n sylwi bod mwy o bobl yn cael eu gadael ar ôl yn yr orsaf a methu cael lle ar y trên yn y boreau," meddai.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sy'n rhedeg rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ers mis Hydref, wedi cael cais am sylw.