Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched: Cymru 0-50 Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Cyrielle BanetFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Cyrielle Banet ddwywaith i'r Ffrancwyr yn yr hanner cyntaf

Cafodd merched Cymru gweir gan Ffrainc ym Mharc yr Arfau brynhawn Sul, wrth iddyn nhw barhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni.

Llwyddodd y Ffrancwyr i adeiladu mantais sylweddol yn yr hanner cyntaf, gyda Cyrielle Banet yn croesi ddwywaith a Laure Sansus unwaith i roi mantais o 19-0 i'r ymwelwyr ar hanner amser.

Fe wnaeth Safi N'Diaye sicrhau'r pwynt bonws i Ffrainc ar ddechrau'r ail hanner cyn i Sansus ychwanegu ei hail gais.

Ychwanegodd Marine Menager, Julie Annery a Camille Boudard ragor o geisiau i'r Ffrancwyr i ddod â'u cyfanswm i wyth.

Mae'r canlyniad yn golygu bod merched Cymru wedi colli pob gêm hyd yn hyn yn y gystadleuaeth eleni.