Tregaron yn atgyfodi Parêd Gŵyl Ddewi wedi 60 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd Parêd Gŵyl Ddewi yn cael ei gynnal ar hyd strydoedd Tregaron ddydd Gwener am y tro cyntaf ers 60 mlynedd.
Bydd dros 100 o blant Ysgol Henry Richard yn gorymdeithio o'r ysgol i sgwâr y dref o flaen cerflun Henry Richard ble fydd yna seremoni fer ac adloniant ysgafn.
Yn ôl y trefnwyr y nod yw "i dynnu cymaint o bobl yr ardal a phosib at ei gilydd er mwyn dathlu diwrnod nawddsant cenedlaethol Cymru, ein hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg".
Ond mae busnesau lleol hefyd yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd y parêd yn denu pobl i'r dref yn y tymor hir, wrth i siop arall gau ei drysau'r wythnos ddiwethaf.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst.
Yn ystod y '50au a '60au roedd disgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron yn arfer gorymdeithio yn eu llysoedd adeg Gŵyl Ddewi o'r ysgol i lawr i sgwâr y dref, gyda chapten bob llys yn cario baner arbennig.
Ddydd Gwener mae'r plant o flynyddoedd 5, 6, 7, 8 a 9 Ysgol Henry Richard yn bwriadu adfer y daith honno, ond y tro hwn mewn gwisgoedd lliwgar ac yn cario baneri Cymru neu Dewi Sant.
"Eleni, achos bod y Steddfod ysgol ddim 'mlaen amser Gŵyl Ddewi, fyddwn ni ddim yn gorymdeithio yn ein llysoedd, byddwn ni'n 'neud e fel un ysgol yn lle," meddai Elin, un o ddisgyblion Ysgol Henry Richard.
"Ma' côr y cynradd, sy'n paratoi i'r Eisteddfod, yn mynd i ganu lawr ar y sgwâr a hefyd ein band ukelele, y Pictôns, yn mynd i ganu ambell gân."
"Ma' fe'n newyddion gwych bod gyda Thregaron parêd, achos ry'n ni'n gallu dweud bo' ni'n dod o Gymru a bo' ni'n siarad Cymraeg."
"Mae'n rhaid dathlu bod 'da ni Sant," meddai Gwenno, disgybl arall fydd yn yr orymdaith.
"Bydd e'n neis bod pawb yn dod at ei gilydd ac i ddathlu, ac ma' fe'n neis hefyd bo' ni'n cael cymryd rhan yn yr un cyntaf ers sbel."
Ymhen ychydig dros 100 diwrnod bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn y dref am y tro cyntaf erioed.
"Os byddwn ni'n 'neud y pared yn un mawr, a bod pawb yn gweld bod bwrlwm, yna bydd pawb yn meddwl bod e'n un da, a bydd yr Eisteddfod yn un da hefyd, a bydd pobl yn dod yma wedyn," meddai Elin.
Pedwar parêd yng Ngheredigion
Tregaron ydy'r dref ddiweddaraf i gael parêd ar gyfer dathlu Gŵyl Ddewi Sant. Mae trefi Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn cynnal gorymdeithiau ers rhai blynyddoedd.
"Ma' Tregaron wastad wedi bod yn rhan o'r cynlluniau i gael parêd," meddai Rhodri Francis o Fenter Iaith Cered.
"Mae'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i'r dre' yn ysgogiad pellach, ac mae'r parêd yn mynd i fod yn rhan o'r build-up i'r Brifwyl.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n galonogol gweld bod sawl un o fusnesau'r dre' wedi cefnogi ein cais ni i addurno eu ffenestri yn barod ar gyfer dydd Gwener.
"Doedden ni ddim yn siŵr beth fyddai'r ymateb, ond mae'r rhan fwyaf wedi bod yn awyddus i gymryd rhan, ac i ddangos posteri yn hysbysebu'r digwyddiad."
"Mae'n newyddion gwych i'r dref bo' nhw'n atgyfodi'r parêd," meddai David Bennett sy'n berchen ar siop anrhegion.
"Mae'n mynd i ddangos ein Cymreictod ond hefyd bydd yn dod â bwrlwm i'r dre.
"Mae'r dre'n dawel iawn ar hyn o bryd - ac mae'n gallu bod yn anodd iawn i fusnesau 'ma.
"Ry'n ni wir yn gobeithio bod yr Eisteddfod yn mynd i wneud gwahaniaeth."
Ddydd Sadwrn diwethaf fe gaeodd un o siopau mwyaf adnabyddus y dref, Medical Hall, wedi degawdau o wasanaeth yn gwerthu papurau newydd a nwyddau eraill.
Cyngor Tref Tregaron, Menter Iaith Cered ac Ysgol Henry Richard sydd wedi trefnu'r orymdaith.
"Mae'r digwyddiad yma yn gyfle i ni ddathlu dydd ein Nawddsant ac i ymfalchïo yn ein treftadaeth a diwylliant," meddai Cynghorydd Tregaron, Catherine Hughes.
"Dwi'n gobeithio daw tyrfa dda i gefnogi'r orymdaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2019
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2014