Plasty hanesyddol a gwesty ar werth yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
GlynllifonFfynhonnell y llun, Iwan Williams

Mae Plas Glynllifon a gwesty Seiont Manor ger Caernarfon ar werth.

Cafodd y ddau fusnes eu rhoi yn nwylo'r derbynwyr ym mis Ionawr eleni, a bellach mae'r ddau adeilad yn cael eu hysbysebu ar y farchnad agored gan gwmni gwerthu tai.

Y pris gofyn am Blas Glynllifon yw £2m a'r pris am adeilad Seiont Manor yw £1.5m.

Dywedodd Ian Taylor o gwmni gwerthwyr tai Fleurets: "Roedd Seiont Manor yn ffermdy yn y 18fed ganrif ac mae wedi ei leoli ar droed yr Wyddfa.

"Hyd at Ionawr 2020 roedd yn cael ei redeg fel gwesty gyda 28 ystafell. Mae Plas Glynllifon yn adeilad sylweddol gyda 42 ystafell wely mewn 16 acer gyda gerddi a choetir".

Ychwanegodd fod yr adeilad ar ganol cael ei adnewyddu ac felly mae rhai rhannau o'r adeilad angen gwaith datblygu.

Mae'r ddau adeilad wedi bod yn destun anghydfodau busnes yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r adeiladau'n cael eu gwerthu gan y derbynwyr, a dan amodau Deddf Cyfraith Eiddo 1925 fe fydd unrhyw elw'n mynd i'r benthycwr gwreiddiol.