Cynllun cylchfan yn cythruddo trigolion cymoedd Gwent
- Cyhoeddwyd

Y cylchfan ym Mrynmawr yw un o'r rhai olaf ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd
Gallai cynllun fyddai'n golygu cau cylchfan ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd ynysu trigolion yng nghymoedd Gwent am 12 mis, yn ôl trigolion lleol.
Mae contractwyr am gael hawl i gau cylchfan Brynmawr wrth iddyn nhw addasu'r A465 yn ffordd ddeuol fel rhan o brosiect hirdymor gwerth £800m.
Yn wreiddiol roedd sôn am godi cyffordd dros dro, ond dywedodd trigolion lleol fod y contractwyr nawr yn credu fod hynny'n anymarferol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "trafodaethau'n parhau".
Mae'r gwaith o uwchraddio Ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi para 20 mlynedd - rhan o gynllun i sicrhau ffordd ddeuol rhwng Abertawe a chanolbarth Lloegr.
Ar hyn o bryd mae traffig ar yr A465 yn gorfod defnyddio cylchfan ym Mrynmawr.
Ond mae contractwyr yn bwriadu symud y ffordd bresennol gan gau'r cylchfan a byddai hynny'n effeithio ar drigolion Brynmawr, Blaena, Abertyleri a Nant-y-glo.
"Ein pryder yw y bydd cymunedau fel Brynmawr yn cael eu hynysu," meddai'r cynghorydd Lyn Elias, sydd wedi cwrdd â Llywodraeth Cymru a'r contractwyr.
"I'r dre' gael ei hynysu am 12 mis, rydyn ni'n pryderu na fydd busnesau lleol a'r gymuned leol yn gallu ymdopi."
Fe gafodd cam diweddaraf y prosiect rhwng Clydach a Gilwern ei ddechrau yn 2014, ac roedd i fod i gael ei gwblhau ddiwedd mis nesaf.

Dywed trigolion Bynmawr y byddai cau'r cylchfan yn eu hynysu
Ond oherwydd nifer o broblemau ac oedi, y dyddiad diweddaraf ar gyfer ei gwblhau yw Ebrill 2021.
"Pan ddechreuodd yr adeiladwyr ymgynghori ynglŷn â lle'r oedd y ffordd yn mynd i gael ei chodi yn 2014, ro'n nhw'n dweud na fyddai unrhyw effaith ar y cymunedau," meddai Mr Elias.
"Rydyn ni'n meddwl fod hyn yn mynd yn rhy bell."
Dywedodd yr AS lleol, Nick Smith, fod bai ar gwmni Costain am beidio ymgynghori â phobl leol, gan "eu cythruddo a chreu syndod".
Mae busnesau lleol yn casglu enwau ar ddeiseb yn erbyn unrhyw fwriad i gau'r cylchdro.
"Bydd gan hyn oblygiadau o ran ein helusen ni," meddai Beth Watkins, o Sinema Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr.
"Mae pobl yn llai tebygol o wneud ymdrech i ddod i Frynmawr, ac o bosib byddan nhw'n penderfynu yn hytrach teithio i sinemâu aml-sgrin."

Dechreuodd y gwaith ar yr A456 yn 2014 ac reodd i fod i ddod i ben ddiwedd mis nesaf
Pe bai'r cylchfan yn cael ei gau fe allai olygu fod mwy o draffig yn mynd drwy bentref Beaufort, ger Brynmawr.
Mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei drefnu yn Beaufort i drafod y sefyllfa ddydd Mercher.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol a gwleidyddion lleol am y ffordd orau i liniaru pryderon traffig.
"Fe fydd ymgyrch wybodaeth yn cael ei lansio yn fuan, ynghyd â chyfres o arddangosfeydd cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017