Prif weinidog y DU 'am weld cyfiawnder' i Gymro ifanc
- Cyhoeddwyd
Bydd prif weinidog y DU yn gofyn i swyddogion ddechrau trafodaethau gyda'r awdurdodau yn Sbaen ynglŷn ag amgylchiadau marwolaeth dyn 18 oed o Fro Morgannwg yn Magaluf.
Roedd Thomas Channon o'r Rhws wedi bod yn dathlu gorffen ei arholiadau Lefel A pan syrthiodd o seithfed llawr gwesty yng Ngorffennaf 2018.
Clywodd cwest iddo syrthio dros wal isel ar safle gwyliau Eden Roc.
Penderfynodd y crwner Graeme Hughes, y byddai wedi bod modd osgoi'r farwolaeth - ac mae rhieni Mr Channon yn galw am achos troseddol.
Dywedodd prif weinidog y DU, Boris Johnson ei fod am geisio sicrhau "cyfiawnder i Tom".
Dywedodd mam Mr Channon, Ceri, ei bod yn "hynod ddiolchgar" am ymateb y prif weinidog.
Clywodd cwest yn 2019 mai Mr Channon oedd y trydydd person i farw yn y safle gwyliau o fewn 12 mis.
Dywedodd y crwner nad oedd camau syml, fel codi ffens, wedi eu cymryd ar ôl marwolaeth Thomas Hughes o Wrecsam ym Mehefin 2018.
Dywedodd Alun Cairns, AS Bro Morgannwg, wrth Dŷ'r Cyffredin, fod rhieni Mr Channon "yn ymgyrchu i gael achos troseddol yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol".
Galwodd ar y prif weinidog i roi pwysau ar yr awdurdodau yn Sbaen i "sicrhau achos troseddol fydd nid yn unig yn sicrhau cyfiawnder i Tom ond fydd hefyd yn anfon neges glir i safleoedd gwyliau yn Majorca i sicrhau nad yw trasiedi o'r fath yn digwydd yn y dyfodol".
"Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Tŷ yn ymuno gyda fi wrth gyfleu ein cydymdeimladau gyda theulu a ffrindiau Tom," meddai Mr Johnson yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog.
Dywedodd Mr Johnson: "Er mwyn sicrhau cyfiawnder i Tom rwy'n hapus i ofyn i'r Ysgrifennydd Cartref i ddechrau trafodaethau yn gyntaf gyda Mr Cairns ac yna wrth sgwrs gyda'r awdurdodau yn Sbaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018