Ysgol Eifionydd, Porthmadog yn dathlu 125 mlynedd o addysg
- Cyhoeddwyd
Mae 'na achos dathlu ym Mhorthmadog, wrth i'r ysgol uwchradd leol gyrraedd carreg filltir bwysig.
Cafodd Ysgol Eifionydd ei sefydlu yn 1894 ac er mwyn dathlu'r 125 mlynedd ddiwethaf fe fydd 'na gyngerdd arbennig yn y dref nos Iau.
Bydd disgyblion presennol yn rhannu llwyfan gyda chyn-ddisgyblion, gan gynnwys y tenor Rhys Meirion.
Mae'r ysgol wedi addysgu sawl enw cyfarwydd, yn eu plith y bardd a'r academydd T. H. Parry-Williams a ddechreuodd yn yr ysgol yn 11 oed yn 1898.
'Dyl Mei, Barry 10 Foot a T H Parry-Williams'
Mae niferoedd y disgyblion wedi crebachu rhywfaint dros y blynyddoedd, yn rhannol yn sgil colli'r chweched dosbarth dros chwarter canrif yn ôl, pan gafodd Coleg Meirion Dwyfor ei sefydlu.
Ond yn ôl y pennaeth Dewi Bowen, mae 'na fanteision i ysgol lai.
"Mae'n gymuned glos iawn fan hyn a Chymreig," meddai.
"Ond mae hefyd yn adlewyrchu llawer o be' sy' 'di digwydd i'n cymunedau Cymraeg ni. Roedd yr ysgol yn arfer bod yn rhyw 600 o blant, bellach rhyw 380.
"Ry'n ni 'di colli'r chweched, teuluoedd yn anffodus wedi gorfod symud i ffwrdd i chwilio am waith. Ond mae'n dal yn gymuned hapus."
Ychwanegodd y pennaeth: "Be' sy' yn ddiddorol ydy'n bod ni'n dathlu 125 o flynyddoedd ers sefydlu'r ysgol yn 1894, ond dim ond rhyw saith o benaethiaid sy' 'di bod yma, gan gynnwys fi.
"Ers colli'r chweched, mae'n gosod mwy o faich yn syth - wrth baratoi at bethau fel y cyngerdd yma - ar ysgwyddau'r athrawon. Er tegwch i Goleg Meirion Dwyfor, mae'r myfyrwyr yn dod 'nôl i'n helpu ni'n achlysurol ond dyw e byth cweit 'run fath.
"Ar ôl dweud hynny, mae dod â'r holl ysgolion mewn i un coleg felly yn gwneud hi'n llawer haws i ddarparu addysg.
"Mae 'na sawl un enwog, nid jyst Rhys Meirion, wedi dod i'r ysgol fach yma - Dyl Mei o Radio Cymru, Barry 10 Foot efo'r reslo, y bardd T H Parry-Williams.
"Mae 'na restr anferthol - sawl cymeriad lliwgar wedi bod gyda ni!"
'Dod yn ôl yma i weithio'
Dywedodd Llio Dudley, athrawes gerdd yr ysgol: "Fi ddoth i fyny efo'r syniad ar gyfer dathlu'r 125 i gael cyngerdd efo'n disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion.
"Yn amlwg, yr enw cynta' un ddoth i'r meddwl oedd Rhys Meirion, mynd ati i gysylltu efo Rhys a chwara' teg, mi gytunodd yn syth.
"'Dan ni wrthi'n ymarfer ers tua canol Ionawr felly gobeithio eith bob dim yn iawn."
Ychwanegodd: "Dwi'n gyn-ddisgybl yma fy hun - dwi'n meddwl mai dyna sy'n rhoi'r pwysau ar fy 'sgwyddau i.
"Dwi 'di gadael ers 2009 ond mae'r ysgol yn meddwl lot i mi, dyna pam dwi 'di dod yn ôl yma i weithio.
"Mae 'na lot ohona ni'n gyn-ddisgyblion wedi dod yn ôl yma i weithio, dwi'n siŵr bod 'na tua pump ohona ni erbyn hyn.
"Dwi'n meddwl bod o'n dangos bod hi'n ysgol dda!"
Bydd y cyngerdd i ddathlu'r 125 mlynedd yn cael ei gynnal yn Y Ganolfan ym Mhorthmadog am 19:30 nos Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2018