Pedwar newid i dîm Cymru wrth i Liam Williams ddychwelyd

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae Cymru wedi gwneud pedwar newid i'r tîm i herio Lloegr yn y Chwe Gwlad, gyda Liam Williams yn holliach.

Dyma fydd gêm gyntaf Williams ers pedwar mis, ar ôl anafu ei ffêr yn erbyn De Affrica yng Nghwpan y Byd.

Bydd yn cymryd lle Josh Adams ar yr asgell, a hynny wedi iddo yntau anafu ei ffêr yn erbyn Ffrainc yng ngêm ddiwethaf Cymru.

Y tri newid arall i'r tîm yw Tomos Williams, Josh Navidi a Rob Evans yn lle Gareth Davies, Taulupe Faletau ac Wyn Jones.

Mae Dan Biggar wedi gwella o glec i'w ben-glin wrth chwarae i Northampton, ac fe fydd e'n cadw'i le fel maswr.

Bydd George North hefyd yn cadw'i le ar yr asgell ar ôl dod dros gyfergyd a gafodd yn y golled i Ffrainc.

Mae Cymru'n teithio i Twickenham ddydd Sadwrn gyda'r gic gyntaf am 16:45.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rob Evans, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Ross Moriarty, Justin Tipuric, Josh Navidi.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carre, Leon Brown, Aaron Shingler, Taulupe Faletau, Rhys Webb, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.

Tîm Lloegr

Elliot Daly; Anthony Watson, Manu Tuilagi, Owen Farrell, Johnny May; George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, George Kruis, Courtney Lawes, Marc Wilson, Tom Curry.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Will Stuart, Joe Launchbury, Charlie Ewels, Ben Earl, Willi Heinz, Henry Slade.