Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 23-27 Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn deilchion wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Ffrainc mewn gêm agos yn Stadiwm Principality.
Aeth Cymru ar y blaen o fewn pedwar munud, gyda Dan Biggar yn gywir gyda chic gosb yn dilyn trosedd gan y prop Cyril Baille.
Ond y Ffrancwyr sgoriodd gais gynta'r gêm yn fuan wedi hynny, wrth i'r cefnwr Anthony Bouthier fanteisio ar y cyfle wedi i Leigh Halfpenny fethu â chasglu cic uchel.
Roedd Romain Ntamack yn gywir gyda'i drosiad, ac fe gafodd y tîm cartref ergyd gynnar arall trwy golli'r asgellwr George North yn dilyn ergyd i'w ben.
Ychwanegodd Ntamack dri phwynt i'r ymwelwyr yn dilyn trosedd gan Dillon Lewis, cyn i Biggar ymateb gyda gôl gosb i Gymru.
Roedd Gael Fickou yn credu ei fod wedi sgorio ail gais y Ffrancwyr wedi 28 munud, cyn i'r dyfarnwr teledu benderfynu fod pas wedi mynd ymlaen wrth i Ffrainc dorri trwy amddiffyn Cymru.
Ond eiliadau'n unig yn ddiweddarach fe ddaeth eu hail gais, gyda'r clo Paul Willemse yn croesi'r gwyngalch yn bwerus cyn i Ntamack drosi'r ddau bwynt ychwanegol.
Fe gafodd Cymru gyfnod da i gloi'r hanner cyntaf, gyda Biggar yn sgorio gôl gosb cyn i'r wythwr Ffrainc, Gregory Alldritt weld cerdyn melyn yn dilyn nifer o rybuddion am droseddu gan y dyfarnwr Matthew Carley.
Er y pwysau dim ond y tri phwynt o droed Biggar gafodd ei ychwanegu at y sgôr yn dilyn gwaith amddiffynnol gwych gan Ffrainc, gan olygu bod yr ymwelwyr ar y blaen o 17-9 ar hanner amser.
Daeth cais cyntaf Cymru wedi 48 munud, gyda'r prop Dillon Lewis yn croesi wrth y pyst i sgorio ei gais rhyngwladol cyntaf, ac fe ychwanegodd Biggar drosiad hawdd i ddod â Chymru o fewn pwynt i'r ymwelwyr.
Ond o fewn ychydig funudau fe lwyddodd Ntamack i sgorio cais ar ôl rhyng-gipio pas gan Nick Tompkins, ac ychwanegodd y trosiad i adfer mantais wyth pwynt y Ffrancwyr.
Ychwanegodd maswr Ffrainc gôl gosb yn dilyn trosedd arall gan Lewis, cyn i glo Wasps, Will Rowlands ddod ymlaen am Jake Ball i ennill ei gap cyntaf dros Gymru.
Fe gafodd Ffrainc eu hail gerdyn melyn o'r gêm gydag ychydig dros 10 munud yn weddill, gyda Mohamed Haouas yn gadael y maes yn dilyn pwysau gan Gymru yn y sgrym.
Llwyddodd Cymru i gymryd mantais, gyda Biggar yn croesi am gais wedi iddyn nhw dorri trwy amddiffyn Ffrainc, ac ychwanegodd y trosiad i ddod o fewn pedwar pwynt i'r gwrthwynebwyr.
Er i'r eilydd Mathieu Jalibert fethu gyda chyfle i ymestyn mantais Ffrainc gyda chic gosb yn y munudau, roedd Ffrainc eisoes wedi gwneud digon i ennill y gêm a chadw eu gobeithion am Gamp Lawn yn fyw.
Amserlen y gemau
Sadwrn 1 Chwefror, 14:15 - Cymru 42-0 Yr Eidal
Sadwrn 8 Chwefror, 14:15 - Iwerddon 24-14 Cymru
Sadwrn 22 Chwefror, 16:45 - Cymru 23-27 Ffrainc
Sadwrn 7 Mawrth, 16:45 - Lloegr v Cymru
Sadwrn 14 Mawrth, 14:15 - Cymru v Yr Alban
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020